Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynyrchion yn Lloffyn, ac argraphwyd ef yn y flwyddyn 1839, yn mhen wyth mlynedd wedi iddo sefydlu yn Aberduar. Y mae rhai darnau hynod farddonol yn y Lloffyn, megys "Cwyn Jacob ar ol ei fab Joseph" ar y mesur Tri tharawiad;" hefyd, "Cywydd y Diogyn a'r Diwyd;" pa rai a ddyfynwn yn gyflawn:

"Ow'r gofid, oer gafod, i'm dryllio o drallod,
Sy'n dô wedi dyfod, mawr syndod y sydd ;
Mae'm bron dan ei briwiau, am llygaid yn ddagrau,
A degau o nodau annedwydd.

"Gwael wyf ac wylofus, ar lawr yn alarus,
Mi âf yn alarus enbydus i'r bedd;
Can's llarpiodd rhyw fwystfil fy enwog fab anwyl,
Ni welaf un egwyl mo'i agwedd.

"Y bachgen penfelyn, â'r bochau heirdd cochwyn,
Pan ydoedd yn cychwyn yn derfwyn i'w daith,
Ychydig feddyliais, was anwyl, neu syniais,—
Gollyngais,—ni welais ef eilwaith.

"Pe b'aswn yn gwybod am droellau'r fath drallod,
Y gwnaethai'r bwystfilod y difrod i'r dyn,
Mi f'aswn ofalus na chawsai'r mab gweddus
Un trefnus, cu, iachus, ddim cychwyn.

"Ow! na b'asai cydyn o'i eurwallt, neu flewyn,
Yn cadw mewn blwchyn eurfelyn, i fod
Yn arwydd gofiadol, i'r oesoedd dyfodol,
O'i harddwch addurnol ryw ddiwrnod.

"Bu'r siaced fraith undydd, un brydferth, dda'i defnydd,
Am dano fe'n newydd ; o herwydd cael hon,
Ei olwg oedd gymhwys, fel blodau Paradwys,
Ac yntau yn gulwys ei galon.

"Ow'r siaced fraith anwyl, yn ngwaed rhyw hen fwystfil,
A drochwyd!—heb arwyl, oer egwyl, yr aeth
Fy Joseph, fab enwog, i'r bwystfil danneddog,
Cynddeiriog, ysglyfiog, yn 'sglyfaeth!

"Pe cawn I ond crawen o asgwrn fy machgen,
Mi fyddwn yn llawen o ddyben gwir dda;
Mi ro'wn yr asgwrnyn mewn eurflwch, heb 'rofyn,
I gofio'r goreuddyn hawddgara'.