Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anafus. Nis gallai ymffrostio gyda'r Hybarch J. Jones, Llandyssul, yn ei allu i gerdded; canys yr oedd y gwaith hwnw yn feichus a phoenus iddo; yr oedd bob amser yn marchogaeth, neu yn gyru mewn cerbyd. Yr oedd o uchder cyffredin, tua phump troedfedd a chwech modfedd; ei wyneb yn llydan, ac o liw tywyll; edrychiad llym, llygaid bywiog, a thalcen llydan. Nid oedd yn rhoddi pwys ar ymddangosiad chwaethus mewn arddull corph na phrydferthwch gwisgiad; byddai yn glogyrnaidd ac annhrefnus. Yr oedd yn amlwg na fu dolenu ei gadach gwddf erioed yn destun ei fyfyrdod. Nid yn aml y byddai yn dadrus ei wallt; a phan y gwnai, nid oedd ond yn hynod aflunaidd; pe buasai ein hybarch frawd yn rhoddi ei fryd ar drwsio ei ddyn oddi allan, gallai ymddangos lawer mwy boneddigaidd. Yr ydym o angenrheidrwydd i gydnabod fod chwaeth dda ar y pen hwn yn gaffaeliad gwerthfawr.

Ei atebion arabedd a ffraethlym.—Y gallu hwn oedd cuddfa cryfder ein harwr. Yr oedd ei atebion yn hynod barod a tharawiadol dros ben. Gellir dweyd, yn ngeiriau Ioan,—pe ysgrifenasid ei ymadroddion ffraeth-bert un ac oll—"nid wyf yn tybied y cynnwysai y byd y llyfrau." Gosodwn yr enghreifftiau canlynol fel dangoseg o'i dalent anghydmarol :Cyfarfuwyd ag ef un tro gan ddau o efrydwyr Coleg Llanbedr, y rhai, wedi clywed am ei ddoniau arabedd, a benderfynasant ofyn cwestiwn iddo, yn dwyn perthynas ag Euclid, gan feddwl ei goncro yn ddiffael. Wedi cyfarch y naill y llall: "Mr. Williams," ebai un o honynt, "caniatewch pe byddai y Bod mawr yn