creu dau fynydd ar y gwastadedd yma, beth fyddai wedyn?" "Byddai cwm yn y canol rhyngddynt, bid siwr," oedd yr ateb. Yr oedd un tro yn ffair Llanybyther yn gwerthu mochyn. Bu yno fargena taer iawn o bob tu; Mr. Williams yn taeru fod y mochyn yn werth ychwaneg na chynygiad y prynwr ; hwnw, o'r tu arall, yn taeru ei fod yn cynyg digon. Beth bynag, ymadawsant heb ddyfod at eu gilydd. Dygwyddodd fod brawd lled bwysig, yn perthyn i'r frawdoliaeth yn Aberduar, yn gwrandaw yr ymgom o'r dechreu hyd y diwedd; a chan fod y prynwr yn wrandawr selog yn y lle, gofidiai na fuasai Mr. Williams yn rhoddi ffordd. Wedi iddynt ymadael, trodd yr aelod ato gan ddweyd, "Mr. Williams, yr ydych wedi gwastraffu nerth ac amser rhyfeddol i siarad am y swm bychan o hanner coron," canys dyna oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. "Frawd bach," oedd yr ateb, "fe ddywedais I gymmaint a hyna ddeng waith am swllt cyn hyn." Flynyddau yn ol, pan oedd achos gweinidog ac eglwys ger bron Cynnadledd Sir Gaerfyrddin, am drosedd ar reolau ein Cymmanfa; yr hwn, pan ddeallodd fod pethau yn gwynebu yn ei erbyn, a diarddeliad yn ymddangos yn anocheladwy, a daflodd lythyr yn cynnwys resignation i'r ysgrifenydd, yn hytrach nac ymostwng yn dawel i'r ddysgyblaeth. Hysbyswyd Mr. Williams (yr hwn oedd allan ar y pryd) o'r dygwyddiad hynod. "O," meddai, "dyna drick Twm yn ngharchar Sir Gaernarfon. Hysbyswyd Twm ei fod i gael ei grogi am ddeg o'r gloch dranoeth. Na, na,' oedd ateb y carcharor, 'fe ysparia I eu sport hwy; fe groga fy
Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/36
Prawfddarllenwyd y dudalen hon