Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei daith i bregethu i'w gylch eglwysig, cyfarfu ag un o weinidogion yr Undodiaid, yr hwn oedd yn hollol adnabyddus iddo, ac yn un o'i hoff gyfeillion. "Wel, T. G.," meddai ein harwr, "b'le yr ai di i wrandaw heddyw?" "Nid gwrandawr wyf i fod, canys byddaf yn pregethu fy hun yn y Cribin," oedd yr atebiad. "Yr wyf finau," ebai Mr. Williams, "yn myned i bregethu Crist i Bethel Silian." Pan yn talu y degwm unwaith i foneddwr a adnabyddir yn y wlad hon fel un o'r eglwyswyr mwyaf brwdfrydig a phenboeth, cyfarchwyd ef gan yr hen dywysog eglwysaidd fel y canlyn:—"Mr. Williams, buasai yn fwy priodol lawer eich gweled chwi yn derbyn tegwm na'i dalu." Ar darawiad amrant atebwyd ef gan ein harwr trwy ddweyd, "Dos yn fy ol i, Satan; rhwystr ydwyt i mi; am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion." Un tro, pan oedd ar ei daith i gwrdd mawr, galwodd yn hen gartrefle yr awdwr—Pontfaen, ger Llandyssul—wrth fyned heibio; a phan oeddem ein dau yn y cerbyd yn cychwyn, galwodd Mrs. Davies ar ein holau, gan ofyn, "Pa bryd y deuwch yn ol?" "Cerdd i'r ty, cerdd i'r ty," ydoedd yr atebiad ffraeth—lym, "gad i ni fyn'd yn gyntaf." Mewn Cymmanfa yn ngodre Sir Gaerfyrddin aeth Mrs. Ellis ato i ofyn ei helynt— priod Mr. John Ellis, un o ddiaconiaid Aberystwyth— un o'r teuluoedd goreu yn ein gwlad. Atebodd hi, Chwaer fach, yr wyt wedi dyfod ffordd bell i'r Gymmanfa. A wyt ti yn myned i'r Cwrdd Gweddi gartref?" Mewn cyfeillach gweinidog a drigfannai yn Sir Aberteifi, yr hwn nad oedd bob amser yn cario