Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y syniadau mwyaf parchus am ei frodyr yn y weinidogaeth, crybwyllodd am ryw draethodau bychain a ysgrifenodd i'r Athraw, &c. Gofynodd y gweinidog crybwylledig iddo mewn tôn wawdlyd, "A ddarfu i chwi sylwi ar y gwallau sydd ynddynt?" I'r hyn atebodd Mr. Williams, "D. W., mae rhai yn dweyd eu bod yn gallu gweled dannedd chwain." Yr oedd hen weinidog yn Sir Aberteifi flynyddau yn ol a dybiai dipyn yn dra ffafriol am dano ei hun, a rhoddai gryn bwys ar ei fodolaeth. Mewn cyfeillach o weinidogion, galwodd sylw ei frodyr at ei brofiad neillduol. Dywedai ei fod yn hen, a'i fod yn tynu tua rhosydd Moab, bron gadael yr anial yn lân. Gosodai bwys mawr ar ei ymadawiad, mwy felly nag oedd eraill yn deimio. Atebwyd ef gan ein gwron, "Cerdd ynte, cerdd ynte. Os wyt yn myned paid cadw 'stwr. Fe fu y byd fyw cyn dy weled, ac fe fydd byw eto ar ol i ti farw."

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn llawn, ac edrychid i fyny arno yn mhob cymdeithas y deuai i gyffyrddiad â hi. Pan gyda'r cyfoethog, teimlai y cyfryw fod yno foneddwr yn ei bresenoldeb; pan gyda'r talentog a'r dysgedig, teimlent hwythau fod tywysog athrylith yn eu plith; yr oedd ein brawd yn ymwybodol o'i gryfder a'i sefyllfa ar y pen hwn, canys nid oedd byth yn dychrynu rhagddynt.

Yr oedd yn berchen synwyr cyffredin cryf. Bendith fawr ydyw y gallu hwn i bob dyn, ond yn fwy felly i bregethwr na neb. Y mae llawer dyn cyhoeddus yn fawr yn y pwlpud; ond wedi disgyn oddiyno y