yw y rhai hyn," meddai, "Ei etholedigion,' &c.'Ei ddefaid,' &c.—Ei blant,' &c. Y mae adnodau bach i'w cael, mae yn wir, Yr holl fyd—pob dyn— a phawb.'" Byddai yn cynnal digrifwch anarferol gyda'i frodyr yn y weinidogaeth mewn perthynas i'w oedran. Ni wnai ar un cyfrif ddweyd ei oedran—yr hyn, fel pethau eraill, oedd yn perthyn i'w nodweddau digrifol. Mewn cyfarfodydd neillduol, ar adegau hamddenol, byddai y brodyr yn cynghreirio er ei hud—ddenu i'r fagl hon trwy ofyn cwestiynau iddo, megys "B'le ei ganwyd? Faint o amser y bu yn y fan a'r fan, a'r lle a'r lle?" Ond buan canfyddai eu hamcanion cyfrwysgall, ac nid oedd tâw ar ei siarad wedi buddugoliaethu arnynt. Y brofedigaeth fwyaf danllyd diammheu a gafodd ein hoffus frawd ar y pen hwn ydoedd mewn Cyfarfod Chwarterol yn Llanfynydd. Cafodd ef a minau ein penodi i'r un lle i lettya, fel y byddem yn arferol. Mor bell ag yr ydym yn cofio mai un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd ein gwesttywr; dyn o ymddangosiad hynod hynaws a thawel. Yr unig eiriau a gawsom oddiwrtho ar hyd yr holl ffordd adref ydoedd atebion i ofyniadau uniongyrchol, yr un fath wedi myned adref. Gwnaeth Mr. Williams nodiadau droion wrthyf am dano yn ei absenoldeb, na welodd ddyn erioed â golwg mwy diniwed. Wedi swperu, cawsom hamdden wrth y tân cyn myned i'r gwely. Tra yr ydoedd Mr. Williams yn ein difyru â'i ffraethebau difyrus, braidd y cawsom wên ar wyneb ein gwesttywr, hyd yn nod wrth wrandaw yr ystorïau mwyaf chwerthingar. Yn nghanol yr ymddyddan gofynodd i'r ysgrifenydd,
Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/41
Prawfddarllenwyd y dudalen hon