Brodor o b'le ydoedd? Atebais ef. Gofynodd yr un cwestiwn i Mr. Williams, a gwnaeth yntau ei ateb. Yn mhen ychydig gofynodd drachefn i Mr. Williams am ei oedran yn dechreu pregethu, ac atebodd ef. Yn nes yn mlaen gofynodd eto ei oedran yn myned i'r athrofa. Atebodd, heb feddwl drwg drachefn. Yn mhen tymhor hirfaith, gofynodd ei oedran yn ymsefydlu yn Aberduar. Pan megys ar ymylon llithrigfa, tarawyd Mr. Williams gan ammheuaeth, a throdd ato ar ei wên gellweirus gan ofyn iddo, "Fachgen, a oes drygioni ynot? Os oes drygioni ynot ti, ni roddaf fy ymddiried mewn dyn byth, oblegid yr wyt wedi'm twyllo yn deg." A gwir oedd y peth; gwnaeth ein cymwynaswr addefiad gonest fod nifer o weinidogion megys weinidogion megys "Lleurwg," a rhai cyffelyb iddo, wedi rhoddi arno i'w hud-ddenu i'r fagl; ac, yn wir, dihangfa brin a gafodd. Dranoeth yr oedd ein hoffus frawd yn ein plith fel Wellington wedi dychwelyd o faes Waterloo, ar ei uchel-fanau mewn buddugoliaeth. Yn mhob cyfrinach gwnai edliw iddynt eu methiant siomedig, ac yn wir yr oeddynt hwy yn cael cymmaint o ddifyrwch wrth gael eu plagio ganddo, ag oedd yntau yn deimlo wrth eu plagio. Pan y byddai yn myned i deulu drachefn, yr oedd ganddo ddigrifion yn eu taro hwythau. Siaradai yn debyg i hyn:—"Tomos, yr ydych chwi yn meddwl yn fawr am eich bachgen, mi wranta; meddwl nad oes plentyn yn un man fel efe. Fel y tad hwnw oedd yn bostio, 'Dyna ysgolhaig yw John ni; y mae y blaenaf yn y class ond un.' 'Ië, ebai y llall, 'pa sawl un sydd yn y class?' 'O! dau,'
Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/42
Prawfddarllenwyd y dudalen hon