Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebai y tad. Erbyn hyn yr oedd John ni yn olaf." Dywedai wrth y wraig drachefn, "Yr ydych chwithau yn meddwl nad ydyw Tomos ddim yn eich caru mor wresog ag ydoedd yn y dechreu, mi wranta. A glywsoch chwi y 'stori am Twm, Cae—mawr, a Betti? Yr oedd Betti o hyd yn dweyd wrth Tomos nad ydoedd yn ei charu fel yr oedd pan briododd efe hi. 'Ydwyf, ydwyf, Betti fach,' ebai yntau, 'yn awr gymmaint ag erioed.' 'Na, nid wyf yn credu,' meddai Betti drachefn. Ar hyn dystawodd Tomos, a 'chwanegodd Betti trwy ddweyd, 'Fe dde'st â cheffyl a chyfrwy i'm cyrchu yma, Tomos.' Ar hyn cynhyrfodd Tomos, a dywedodd, 'Betti, fe ddown I â cheffyl a dau gyfrwy i dy hebrwng oddiyma.'

Yr oedd yn gartrefol yn mhob teulu yr elai iddo, ac yn gwneyd pawb o'i amgylch i deimlo yr un modd. Y gwir yw, yr oedd y gwesttywyr caredig mewn cyfarfodydd yn barod i gwympo allan am ei gael o dan eu cronglwyd. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, ei fod ef a minau yn cyd—deithio o Aberteifi, ac yn bwriadu llettya y noswaith hono yn Llandyssul. Yr oedd yr awdwr yn gweinidogaethu ar y pryd yn Bethel a Salem, Caio. Wedi gorphwys am ychydig yn Mhenybont, galwodd Mrs. Jones i fewn, a dywedodd wrthi yn debyg i'r hyn a ganlyn:—"Mrs. Jones, mae eisieu lletty arnaf heno; mae Mrs. Jones y shop yn dwli am fy nghael, a Mrs. Phillips, Blue Bell, yr un modd; ond yr wyf yn cynyg yr anrhydedd yn flaenaf i chwi: 'nawr dywedwch yn y fan." Mrs. Jones yn ateb, wedi ei llyncu fyny gan ei ddigrifwch, "Yma