i'r de-ddwyreiniol o Llanbedr, ac yn gapel o faintioli cyffredin. Mae wedi meddiannu y wlad o amgylch, ac yn bresenol y mae yno eglwys gref a chynulleidfa ragorol. Gadawn i'r dyn gwerthfawr hwnw—Mr. Thomas Morgans, Fraich Esmwyth—i ddweyd hanes yr achos blodeuog hwn o'i ddechreuad. Gadawodd ysgrif ar ei ol, pa un sydd yn meddiant D. Lloyd, Ysw., Dolgwm House, Llanbedr, pa un a osodwn ger bron y darllenydd:
"Yn nechreu haf 1839 cafodd aelodau Aberduar, ag oedd yn byw yn y rhan uchaf o blwyf Pencareg, annogaeth i geisio gan y Parch. John Williams i ddyfod i'r gymydogaeth hono; a chafwyd ty gan William Williams, Parkyrhos, a bu yn pregethu yno am amryw fisoedd, a llawer iawn yn dyfod yno i wrando. O gylch mis Awst y flwyddyn hono, anfonwyd un o'r brodyr i gymeryd y ty i'r perwyl o bregethu, a buwyd yn pregethu yno am yn agos i flwyddyn; ac yn mis Gorphenaf, 1840, daeth un y'mlaen i ddangos ei bod yn chwenych uno a'r Bedyddwyr, a bedyddiwyd hi yn yr afon yn agos i Barkyrhos ar yr 19eg o Orphenaf, 1840; yr wythnosau canlynol daeth amryw y'mlaen hysbysu eu bod yn ewyllysio dangos eu cariad at Fab Duw trwy ufuddhau i'r ordinhad o Fedydd. Ar yr 16eg o Awst bedyddiwyd wyth ar eu proffes o'u ffydd, a chadwyd y cwrdd cymundeb cyntaf yn Parkyrhos. Ar yr achlysur mae'n debyg i John Williams i ddweyd rhywbeth nad oedd wrth fodd taenellwyr babanod i'r fath raddau fel y darfu iddynt weithio mor effeithiol ar berchen y ty, yr hwn oedd a'i wraig, a'i nai—yn perthyn i'r Independiaid, fel y dafu iddo anfon cenad at un o aelodau y Bedyddwyr i'w rhybuddio na chaent ddim pregethu yno' ond am bythefnos, ac na chaent fedyddio yn yr afon ar gyfer ei dir. Ond mor gynted ag y clybuwyd fod y ty uchod yn cael ei gau, clywsom fod ty yn Tanlan. Felly awd i Tanlan.—THOMAS MORGANS."
Bu yn hynod lwyddiannus i fedyddio. Yn y flwyddyn 1859 bedyddiwyd dros gant, ac un boreu Sabbath yn y flwyddyn hono bedyddiodd 39 mewn ugain mynyd. Er nad oedd ein brawd o gorph cryf, eto yr oedd yn hynod ddeheuig gyda y gwaith hwn, ac yn cael ei ystyried yn Fedyddiwr da. Bedydd-