iodd amryw o weinidogion parchus, pa rai sydd agos oll wedi troi mewn cylch o ddefnyddioldeb, megys y Parchn. D. Jenkins, Jesreel; John S. Hughes, Abertawy; D. Evans, Llaneurwg; T. Davies, Cwmfelin; a Mr. Evan Evans, Llanbedr.
Bu Mr. Williams yn hynod ffyddlon yn ei gylchoedd Cymmanfaol. Nid oedd neb yn fwy teimladwy i wrando ar gwyn achosion gweiniaid; gwyddom iddo wneyd llawer er eu cynorthwyo. Byddai yn arfer ceryddu gweinidogion am na fyddent yn arfer galw mewn lleoedd gweiniaid wrth basio i gyrddau mawr, trwy ddweyd, "Yr hen ffasiwn oedd gyda ni yn amser W. Evans, Aberystwyth, wrth fyned i'r cyrddau mawr, ydoedd pregethu yn Llanrhystyd, Swydd Ffynnon, &c. Wrth hyny yr oeddem yn cadarnhau yr eglwysi gweiniaid. Ond 'nawr y maent yn myned whiw gyda'r train, ac yn disgyn fel brain yn y cyrddau, heb neb yn eu gweled yn dyfod nac yn myned." Yr oedd Mr. Williams yn un o'r Cynnadleddwyr goreu, ac yn teimlo interest yn y gwahanol achosion, a phob amser byddai yn cael ei wrando ar eu rhan. Bu yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Chwarterol am flynyddoedd. Y mae un rhinwedd arall yn galw am ein sylw arbenig.
Yr oedd yn hynod barod i roddi hyfforddiadau i'r gweinidogion ieuainc, ac yn teimlo dyddordeb yn hyny. Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith wrth ddynion ieuainc yn debyg i hyn:—" Gofala bob amser am dy ddyledswyddau gweinidogaethol, fel na chaffo y bobl gyfle i'th geryddu. Paid syrthio i