Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymyl y ty, yr hwn a'i cyfarchodd ef fel y canlyn:'Darw coch, gwrando air o gynghor; yr wyf yn gyfaill i ti, ac yn dymuno dy les; yr wyf yma er's blynyddoedd, ac wedi gweled llawer un o dy fath yn cael eu magu yma, ac wedi iddynt dyfu i faintioli yn tori ar draws y wlad. Y canlyniad fu i meistr eu saethu bob un; ac fel y mae byw dy enaid, os troedi eu llwybrau, yr un fydd dy dynged anffortunus dithau." Cafodd y cerydd hwn effaith anghydmarol ar feddwl y dyn ieuanc. Yr oedd un bachgen yn weddïwr doniol iawn yn eglwys Aberduar, a byddai y gweinidog yn hoff iawn o'i orchymyn i weddïo, yn neillduol pan mewn dosbarth ar gyrau yr eglwys. Chwyddodd y dyn wrth y sylw oedd Mr. Williams yn ei wneyd o hono, a deallodd y gweinidog ei fod yn y cyflwr peryglus hwnw. Un diwrnod, er mewn pysgota clod, gofynodd i Mr. Williams, "Sut yr ydych yn fy rhoddi i weddïo fel hyn yn amlach na neb?" Atebodd Mr. Williams ef trwy ddweyd, "A fuoch chwi yn edrych ar eich mam yn gwneyd canwyllau erioed? Gwyddoch mai y rhai meinaf y mae yn dipio amlaf yn y pot â'r gwêr." Deallodd y brawd yr hint a bu dawel.

Yr oedd Mr. Williams yn wahanol i lawer o hen weinidogion trwy ei fod yn symmud yn mlaen gyda'r oes. Yr oedd mor gartrefol gyda'r ieuanc a'r hen, a hwythau yr un modd gydag yntau.

Yr oedd yn un selog dros ben dros ei egwyddorion fel Bedyddiwr. Cafodd brofedigaethau llymion gan y Parch. John Jones, Llangollen, yr hwn a fu yn