Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grefydd egwyddorol. Y mae hyn yn amlwg trwy fod yr elfen grefyddol yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau, ei bregethau, yn nghyda'i gyfeillach ddirgelaidd. Yr oedd teimladau crefyddol yn llywodraethu ei galon. Y canlynol fyddai ei hoff emyn:—

"Yn dy waith y mae fy mywyd,
Yn dy waith y mae fy hedd;
Yn dy waith 'rwyf am gael aros
Tra bwy 'r ochr hyn i'r bedd;
Yn dy waith ar ol myn'd adref,
Trwy ofidiau rif y gwlith;
Moli 'r Oen fu ar Galfaria—
Dyna waith na dderfydd byth."

Heblaw, yr oedd gan ein brawd grefydd ymarferol; yr oedd ei fywyd i fesur helaeth yn ddifrycheulyd ger bron y byd. Bu yn ffyddlon i'w Arglwydd yn y cylch pwysig a ymgymerodd arno, ac hyderwn ei fod wedi cyfranogi o'r croesawiad hwnw y clywsom ef yn dweyd mor hyawdl arno, "Da was, da, a ffyddlawn: buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Pell ydym o honi perffeithrwydd i'n hanwyl frawd ar y pen hwn; gallai fod rhai yn rhagori arno. Eto myntumiwn fod ynddo nodweddau gwir Gristion. Yr oedd yn meddu syniad goruchel a dyrchafedig am Dduw, ei air, a'i waith sanctaidd. Yr oedd holl alluoedd uwch—raddol ei enaid yn cael eu taflu fel gemau gwerthfawr wrth draed ei anwyl Geidwad. Hawdd canfod yn ei waith yn ymdrin â'r pethau cysegredig, fod yno deimlad dysgybl wrth draed ei athraw yn gofyn, "Pa beth a fynni di i mi i'w wneuthur?" Wedi darllen pennod neu ei destun,