Y FEIRNIADAETH.
Teimlaf yn ddiolchgar i Bwyllgor Eisteddfod Tyssul Sant am roddi yn destun Gofiant i'r diweddar Barch. John Williams, Aberduar. Peth rhesymol a buddiol ydyw cadw coffadwriaeth am y cyfryw bersonau a fuont yn ffyddlon yn eu hoes yn ngwasanaeth eu Duw, ac o ddefnydd neillduol i ddynion. Dywedir yn yr Ysgrythyr fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig; y mae rhan helaeth o'r Ysgrythyrau yn hanes bucheddau dynion da. Ysgrifenodd pedwar hanes bywyd a marwolaeth y dyn Crist Iesu; y bywgraffiad goreu yw eiddo Luc y Physigwr; ond y mae y pedwar wedi eu barnu yn deilwng o wobr fawr, sef breniniaeth ac offeiriadaeth yn y nef. Ni ddaeth ond un Cofiant i'r Hybarch Williams, Aberduar, i law; sef eiddo Jonathan. Edrychais drosto mor fanwl ag y gallaswn, ac y mae, i'm bryd I, yn bob peth a ellid ddymuno, a sicr nas gallai un Dafydd ragori arno. mae y rhan gyntaf yn cynnwys hanes am brif gyfnewidiadau ei fywyd, yn gywir a manwl. Yr wyf yn barnu mai annoeth yw rhoddi yn ei gofiant ei ganu pan wedi dweyd ei wers yn dda wrth y tutor, a rhyw ychydig o bethau eraill. Rhan II. Mae hon yn rhagorol, yn gymmedrol, diweniaeth, a gwirioneddol. Rhan III. Yn bortread cywir a gwir lun Williams, fel dyn, gweinidog, a Christion. Pawb oedd yn ei adnabod a'i adwaenant yn y fynyd wrth edrych ar y portread hwn, a dynwyd gan Jonathan; a chaiff yr oes a ddel wybod pa fath un oedd hen weinidog Aberduar o'r flwyddyn 1831 hyd y flwyddyn 1871. Rhan IV. Y mae y farwnad yn rhagorol. Nid wyf yn deall rheolau barddoniaeth, ond y mae elfen fywiol yn rhedeg trwy yr alarnad, a naturiaeth ei hun yn fy nghefnogi i ddweyd yn hyf ei bod yn waith bardd natur a chelfyddyd hefyd. Yr wyf yn credu pe buasai saith yn cystadlu, na fuasai un o honynt yn rhagori ar Jonathan. Mae yn gyfiawn iddo gael y wobr; rhodder hi iddo.
Yr eiddoch yn gywir,
THOMAS WILLIAMS.
PENDERFYNIAD Cyfarfod Chwarterol Dosparth Isaf Swydd Gaerfyrddin, yr hwn a gynhaliwyd Hydref yr 20ed a'r 21ain, yn Ebenezer, Llangynog :
"Fod y Cyfarfod hwn yn mawr lawenhau fod cofiant teilwng wedi ei ysgrifenu gan y Parch. J. DAVIES, Llandyssul, i'r diweddar Barch. J. WILLIAMS, Aberduar, ac yn taer ddymuno arno ei ddwyn allan drwy y wasg yn fuan."