COFIANT JOHN WILLIAMS.
RHAN I.
Prif gyfnewidiadau ei fywyd—Lle ei enedigaeth—Ei rieni a'i berthynasau—Ei ddyfodiad at grefydd—Ei fedyddiad—Dechreu pregethu—Ei fynediad ir Athrofa—Ei gyd—fyfyrwyr—Rhai engreifftiau o'i hynodion yno—Ei alwad i'r Penrhyncoch hefyd i Aberduar—Ei sefydliad yn y lle olaf—Ei briodas—Nifer ei deulu—Ei gystudd hirfaith—Ei angeu yn nghyd â hanes ei farwolaeth.
GANWYD gwrthddrych ein cofiant mewn ffermdy bychan o'r enw Trwynswch, yn mhlwyf Llandoged, Swydd Dinbych. Enwau ei rieni oeddynt John a Jane Williams: oddiwrth enw ei dad y cymerodd yr enw Barddonol "I. ab Ioan." Yr oedd ei fam yn ddynes hynod o grefyddol, ac yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llanrwst. Nid oedd ei dad yn proffesu crefydd, eto Trefnydd Calfinaidd ydoedd o ran ei farn. Byddai Mr. Williams yn siarad llawer am ei fam—mwy felly nag am ei dad—hi, mae yn debyg, gafodd yr afael flaenaf ar ei feddwl, ac egwyddorion proffesedig ei fam a fabwysiadodd. Bedyddiwyd ef yn Llanrwst gan y Parch. John Thomas,