R. J. yn ei Gofiant, ond erbyn hyn yr wyf wedi cael gwell cyfle i farnu nad ellir gwneuthur hyny: oblegid ymhlith yr ychydig nifer o honynt a ddaethant i'm llaw, nid oedd yn eu mysg gymaint ag un o'i bregethau goreu ef. Ac am hyny nis gallesid gwneuthur tegwch ág ef fel pregethwr heb gael rhai o'r goreuon. Mae'n ofidus gan lawer o'i gyfeillion, heblaw fy hunan, erbyn hyn, na buasem wedi digwydd cofnodi ei bregethau ef wrth eu gwrandaw. Eto ni a hyderwn fod rhyw ddarn au o honynt yn nghof miloedd o'r rhai a'i gwrandawsant, a hyny er eu tragywyddol lesâd.
Dymunwyf gyflwyno fy niolchgarwch i'm cyfeillion a'm hanrhegasant â'u hysgrifau, y rhai a gynwysent amryw ddefnyddiau at y Cofiant hwn. Ni ddefnyddiais yn gyflawn yr hyn a anfonasant ataf, ond cymerais fy rhyddid i ddethol yr hyn a ymddangosai i mi yn fwyaf i'm gwasanaeth. Yr un modd y teimlwyf yn ddiolchgar i'r Beirdd hefyd am eu Henglynion.
Gobeithiwyf mai nid difyrwch yn unig a fwynha y darllenydd oddiwrth y Cofiant hwn, ond y defnyddir ef ganddo er ei addysg a'i wir lesâd
E. EVANS
Llangollen, Mai, 1854.