Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

fedrodd efe fawr ar hyny trwy ei oes, yr hyn yn ddiau a fu yn golled ddirfawr iddo.

Amlygai er yn fachgen fod ganddo ef feddwl cryf a bywiog; ond nid cymaint oedd ei awydd i ymaflyd mewn unrhyw alwedigaeth ag a ddylasai fod. A phan yr ymaflai mewn rhyw orchwyl, yr oedd ei ddull an-neheuig ef yn ei gyflawni yn wahanol i fechgyn eraill, ac yn ei wneuthur yn wrthddrych chwerthiniad gan y rhai a'i gwelent. Pan y canfyddid ef yn dyfod i'r maes ynghanol prysurwch y cynhauaf, dywedai y llanciau mewn crechwen, "Dyma yntau yr hen Elsnore yn dwad." Ni wyddent pa iaith nac o ba ystyr oedd yr enw hwn, ond arferent ef fel enw o ddigrifwch a gwawd. Gorphwysai ei achos yn drwm ar feddwl ei rieni, a dywedai ei dad mewn soriant a thosturi, "Ni wn i yn y byd beth i wneyd o Dic yma, a wyddost'ti, Gaynor? Rwy'n meddwl y byddai'n well i ni ei roi yn grýdd gyda Wil ei frawd, hwyrach y daw o yn grydd go lew." At William yr aeth, ac yno y bu yn ceisio trîn y gwrychyn a'r mynawyd; ond os drwg cynt, gwaeth gwed'yn. Ni fedrai ei frawd ychwaith wneyd fawr o hono yn y gryddiaeth, yr oedd yn fwy aflerw na neb ynddi, fel yr oedd yn bleser gan segurwyr gyrchu i siop Wil Siôn i edrych ar Dic yn gweithio. Fodd bynag, glynodd yn y grefft hon amser maith, ac aeth o'r diwedd yn enw o feistr ei hunan. Cymerodd ei dad dŷ iddo ef yn y pentref. Ac fel yr oedd Richard yn hoff o fyned yn hwyr i gysgu gan ei awyddfryd i ddarllen, ac aros yn lled hir yn ei orweddfa y boreu, llwyddodd gyda'i dad i gael gwely yn nghwr ei weithdy, fel y caffai fwynhau ei gŵsg gyda mwy o lonyddwch a thangnefedd nag a gawsai yn nhŷ ei rieni. Yn ei gaban ei hun y rhan