barotoi ei wn; a chynnygiai ollwng yr ergyd, ond methai gan ofn. Er nad oedd y rhai oedd gyfagos iddo ddim heb arswyd arnynt am eu heinioes, eto nis gallent ymatal rhag chwerthin am ei ben. O'r diwedd gollyngodd yr ergyd allan, ac i ba le yr aeth ond i'r ddaear ychydig latheni oddiwrtho! Dro arall, rhoes ddefnydd dwy ergyd ar unwaith yn ei offeryn; ac yn ngollyngiad hwnw allan, gwrthdarawyd ef ganddo nes ydoedd yn ymestyn ar wastad ei gefn—ac yn ei fawr ddychryn gwaeddai'n grôch, gan ddywedyd, " Na-na'n widdionedd i, thaetha i ergyd byth ond hyny—na-na'n widdionedd i". Mae yr amgylchiad hwn yn dangos mai nid ceisio bod yn anhylaw yr ydoedd. Gobeithir y daw rywdro yn fwy medrus mewn rhywbeth nag oedd yn y pethau hyn, onide ni byddai yn wrthddrych teilwng o goffadwriaeth; ond y mae yn gyfiawnder â'r oes iddi wybod am ryw gymaint o ddiffygion y sawl a gofientir, yn gystal ag am eu rhinweddau. Felly hefyd nid hawdd yw rhoddi darluniad teg o'r brawd Richard Jones, heb wneuthur hyny ag yntau.
Nid oes genym hysbysrwydd helaeth am ei ymgyflwyniad yn aelod eglwysig, ond ymddengys mai gyd a'r Trefnyddion Calfinaidd yr ymunodd gyntaf yn moreuddydd ei oes, ac iddo dreulio amryw flynyddoedd gyda hwynt. Yr oedd ei frawd William hefyd yn aelod gyda'r cyfryw enwad. Aeth eu mam i'r gyfeillach grefyddol gyda hwy; a beth a ddigwyddai fod yno y tro hwnw ond rhyw bregethwr yn trin cyflwr William, ac yn ei holi ef yn lled drwm; ac yn niwedd y prawf, dywedai y gwr fod eisiau ei "ail-bobi" ef. Tramgwyddodd yr hen wraig yn ddirfawr yn wyneb y triniad hwnw ar ei bachgen hi, a dywedai mewn soriant wrth yr athraw ei bod hi wedi "pobi" digon ar