Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

Wil y tro cyntaf; ac felly, hi ganodd yn iach iddynt, ac ni ddaeth yno byth mwyach, ond gwerthfawrogodd ei chyfleusderau i fyned i'r man lle trinid cyflyrau dynion yn ysgafnach.

Tua'r flwyddyn 1804, ymadawodd Richard Jones â'r Trefnyddion. Beth a fu yr achlysur penodol o hyn, nis medrwn wybod gydag eithaf manylwch. Dywed yr oedranus a'r hybarch Mr. Lewis Morris, yr hwn a fagwyd yn yr un gymydogaeth âg ef, fel hyn, "Nid oes genyfi'w ddweyd am Richard Jones amgen na da hyd y gwelais i. Bu gyda'r Trefnyddion am amryw flynyddau,—pa faint, nis gwn. Gwnaeth ei frawd William, yr hwn hefyd oedd yn aelod gyda ni, rywbeth ag oedd yn galw am gerydd eglwysig; ac yn hytrach nag ymostwng dan y cerydd, efe a ymadawodd â ni; ac yn yr amser hwnw, ymadawodd Richard hefyd, ond yn gwbl ddigerydd a didramgwydd." Yn ei ymawiad â'r Trefnyddion, erfyniai ar y Parch. H. Pugh o'r Brithdir ddyfod i bregethu i Lwyngwril, â'r hyn y cydsyniodd y gwr enwog hwnw; ac yn ddioed, ymunodd R. Jones, a phump neu chwech o rai eraill, yn yr eglwys. Dyma ddechreuad yr achos Annibynol yn y parth hwn o'r wlad. Y pryd hwnw, daeth un Lewis Pugh, yr hwn oedd bregethwr cynnorthwyol, i Lwyngwril i gadw ysgol ddyddiol, yr hyn oedd yn fanteisiol i'r achos yn ei gychwyniad. Wedi dyfodiad y Parch. James Griffiths (yn awr o Dyddewi) i weinidogaethu yn Machynlleth a Thowyn, rhoes yr ychydig gyfeillion yn Llwyngwril eu hunain i'w ofal ef i'w bugeilio yn yr Arglwydd; a thua'r flwyddyn 1810, adeiladwyd yno addoldy. Nid oedd gan y gymdeithas fechan cyn hyny ond ystafell wael ac anfanteisiol iawn i addoli ynddi. Yn wyneb fod anghenrheidrwydd ar Mr.