Griffiths i fyned yn fynych i sir Benfro, ac nad allai oblegid hyny ymweled â Llwyngwril ond anaml iawn, cydsyniodd y cyfeillion yn y lle hwn, ac yn Llanegryn a Thowyn, i roddi galwad i'r Parch. D. Morgan (yn awr o Lanfyllin) i weinidogaethu iddynt. Ar eu deisyfiad hwy, yn nghyda thaer annogaeth gweinidogion Meirion a Maldwyn, cydsyniodd â'u cais, ac urddwyd ef yn Nhowyn yn y flwyddyn 1813. Arferai Mr. Morgan ddyfod i'r manau crybwylledig yn fisol am yspaid chwe blynedd cyn ei ordeinio, er ei fod yn byw yn sir Aberteifi. A phan y symudodd efe i Machynlleth, rhoddwyd galwad i'r Parch. H. Lloyd i lenwi y cylchoedd hyn. Yr oedd R. J. yn un o'r rhai blaenaf a annogai yr enwogion crybwylledig i ddyfod yno.
Canfyddwyd fod R. Jones yn feddianol ar wybodaeth a doniau helaethach na'i gyfeillion; am hyny, annogwyd ef i esbonio yr ysgrythyrau, a chynghori yn y cyfarfodydd gweddïo. Arferodd ei ddoniau y felly am lawer o flynyddau gyda chymeradwyaeth a defnyddioldeb mawr. Dywedir mai yr achos i'r cyfeillion oedi cyhyd i roddi cefnogaeth iddo i bregethu oedd, nid un ammheuaeth am ei ddoniau a'i gymhwysderau, ond ofni yr oeddid na buasai yn bosibl ei gadw ef gartref ond ychydig, ac y buasai hyny yn colledu yr achos ieuanc yn ddirfawr yn y gymydogaeth, gan nad oedd neb a fuasai yn alluog i lenwi ei gylch ef yno. Ond o'r diwedd, tua'r flwyddyn 1817, annogwyd ef i bregethu; ac nid hir wedi hyn y bu ei gymydogion heb deimlo eu colled am ei gymdeithas a'i lafur; oblegid teimlai yr hen gyfaill bellach, ar ol hir sefydlogrwydd a phrawf yn ei ardal enedigol ei hun, awydd am fynu holl Dywysogaeth Cymru yn faes i'w lafur.