rwydd gymaint am wybodaeth, yr oedd ei gôf cryf yn dra manteisiol iddo i gyrhaedd yr enwogrwydd y daeth iddo. Adroddai gyda rhwyddineb y pregethau a glywsai, yn enwedig os byddai ynddynt ryw bwnc o ddadl. Ac os byddai rhywun mewn gofid o herwydd anghofio rhyw sylw o'r bregeth, ni byddai raid iddo ond rhedeg i'r gweithdy at Dic Siôn, na chaffai ei ddwyn o'i drallod yn ebrwydd. Yr oedd yn hyddysg dros ben yn yr ysgrythyrau drwyddynt oll, fel y gallesid yn hawdd ei ystyried fel mynegeir byw y gymydogaeth. Pe gofynasid iddo pa le yr oedd unrhyw adnod , dy wedai yn y fan, ac yn gyffredin efe a'i hadroddai yn lled gywir. Erbyn iddo ef fyned yn bregethwr, yr oedd ei gôf mawr yn nodedig o fanteisiol iddo, gan na fedrai efe ysgrifenu cymaint â llythyren. Efallai fod y rhai sydd yn alluog a chyflym i ysgrifenu, yn gwneud gradd o gam â'u côf trwy ymddiried gormod i'w hysgrif, fel mae'r côf trwy ddiffyg ymarferiad yn gwanhau. Nid oedd y gelfyddyd hon ganddo ef, ac oblegid hyny, nis gallasai ymddiried cadwraeth ei ddrychfeddyliau i neb nac i ddim ond i'w gôf ei hunan yn unig. Mae'n rhaid ei fod yn gofiadur rhagorol dda gan ei fod yn alluog i gofio yr holl bregethau a gyfansoddasai. Parhaodd ei gôf hyd ddiwedd ei oes heb wanychu ond ychydig iawn. Nid llai enwog oedd efe ychwaith o ran
Ei ddeall treiddgar. Yr oedd efe yn hyn hefyd uwchlaw y cyffredin, sef yn nghryfder a chyflymdra ei ddeall, fel y cydnabyddid gan bawb a'i hadwaenent, nid yn unig gan y bobl gyffredin, eithr gan ddynion o ddysg a gwybodaeth, ei fod yn un o'r dynion galluocaf ei amgyffrediadau. Pa faint enwocach a fuasai efe mewn gwybodaeth pe cawsai fanteision dysg yn moreu