Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

ei oes, nis gwyddom; eithr yn ol y manteision oedd ganddo, yr oedd y wybodaeth ddofn a chyson a feddiannai yn brawf ei fod yn wr o amgyffrediadau cyflym a nerthol. Nid oedd un gangen o dduwinyddiaeth nad oedd ganddo ef gan helaethed gwybodaeth ynddi â nemawr yn Nghymru. Yr oedd yn deall trefn iachawdwriaeth yn ei hamrywiol ganghenau a'i chysondeb yn rhagorol; a'i olygiadau ar ei phrif bynciau, megys iawn, prynedigaeth, gwaith yr Yspryd, eiriolaeth a mechnïaeth Crist, &c. oeddynt hynod o eglur. A rhoddi pob tegwch i'w gymeriad fel dyn deallus yn yr Ysgrythyrau, anhawdd fyddai cael neb tuhwnt iddo yn hyn. Pe buasai yn gyfreithlon i'r naill ddyn adael ar ddyn arall i farnu trosto mewn duwinyddiaeth, gallesid ymddiried y gorchwyl hwnw i Richard Jones gyda'r cyntaf. Ni ymfoddlonai un amser ar syniadau cymylog ac aneglur i'w feddwl ar ddim, ond efe a chwiliai ac a ymofynai yn ddiflino nes cyraedd boddlonrwydd arno.

Mae ei ddarllengarwch hefyd yn un o'r prif bethau a hynodent ei gymeriad. Gan na ddysgasai efe ddarllen ond yr iaith Gymraeg yn unig, yr oedd ei fanteision i gasglu gwybodaeth yn fychan iawn, yn enwedig yn moreuddydd ei oes, wrth y manteision sydd gan hyd yn nod y Cymro uniaith yn awr. Ond y fath oedd ei y syched ef am wybodaeth, a chymaint oedd ei hyfrydwch mewn darllen, fel y daliai ar bob cyfleusderau o fewn ei gyraedd i feddiannu llyfrau, naill ai drwy eu prynu neu eu benthyca, yn enwedig llyfrau ar dduwinyddiaeth, oblegid yn y gangen hono yn benaf yr oedd ei feddwl ef yn llafurio. Pan oedd efe yn ymyryd a'i grefft fel crŷdd, nid yr esgid a welid yn ei law ef amlaf, ond y llyfr, yn enwedig y Beibl. Arosai ar ei