neb a welath i eddioed." Yr oedd ganddo lawer o lyfrau Cymreig eraill, nad ellir yn awr eu henwi bob yn un ac un. Yr oedd yn ddarllenwr cyson ar у DYSGEDYDD er ei ddechreuad, yn enwedig pan byddai dadl ar droed. Parhaodd yn ddarllengar trwy ei oes, er na oddefai adfeilion henaint iddo allu aros uwchben un llyfr cyhyd ag yr arferasai yn mlodau ei ddyddiau.
Nid darllenwr mawr yn unig oedd R. J. ond yr oedd yn fyfyriwr mawr hefyd. Dichon fod un yn ddarllengar iawn, gan sychedlu am lyfrau newyddion, a phethau newyddion yn y rhai hyny, ac wedi ei holl lafur felly, fod yn fyfyriwr bychan. Mae gan ambell un ystafellaid o lyfrau, a'r rhai hyny o'r fath werthfawrocafyn y byd, ac er hyn i gyd, nid yw eu perchenog ond myfyriwr gwael. Yr oedd yr hen Lwyngwril yn feddylgar nodedig, byddai ganddo ryw ddefnyddiau neu gilydd yn cael eu malu yn melin ei fyfyrdod yn wastadol. Nid oedd yn ddigon ganddo ef wybod beth oedd barn rhai eraill ar unrhyw beth, ond triniai a phwysai ef y i cyfryw bwnc drosto ei hun, yn enwedig os byddai rhyw newydd-deb ynddo. Anfynych y gwelid neb yn meddylio mwy drosto ei hun nag ef. Mae côf cryf wedi bod yn achlysur i laweroedd esgeuluso myfyrdod, gan fyw drwy eu hoes yn gwbl ddifyfyr ar ffrwyth y côf mawr, fel y gellid ystyried eu meddwl fawr well na'r ystyllod a gynnalient eu llyfrau. Ond nid felly y gwnai Richard Jones, eithr yr oedd ef yn gofiadur mawr, yn ddarllenwr mawr, ac yn fyfyriwr mawr, fel y dywed pawb a'i hadwaenent ef.
Yr oedd ei awydd am wybodaeth yn amlygu ei hun gymaint hefyd yn ei hyfrydwch mewn ymresymu a dadleu. Treuliodd lawer noson yn nhai ei gyfeillion i ymddadleu, nid yn gecrus, ond er mwyn cyraedd gwy-