ion mewn dysg a gwybodaeth? Pan soniosh fod eich barn chwi yn wahanol i'r eiddynt hwy, dywedwch hyny bob amser yn fwy gostyngedig ac hunanymwadol." Efe a dderbyniai y cynghor mewn sirioldeb, ac a ddiwygiai yn y peth hwnw, er y glynai ryw gymaint o'i weddillion wrtho trwy ei oes, oblegid arferai ddweyd wrth grybwyll ei farn ar ambell bwnc, "'Wyi yn ffyddaeo â nhw yn y fan yma, ' wy i yn ffyddaeo â'r gwydd da add y pwnc yma." Eithr trwy ei ymroad a'i ddiwydrwydd, daeth yn mlaen o radd i radd nes cyrhaeddodd enwogrwydd mawr, ac ystyried ei fanteision.
Pen. IV
HYNODRWYDD R.J. YN CADW CYFEILLACHAU EGLWYSIG.
Arferodd ei ddawn yn y Cyfarfodydd hyn am flynyddoedd lawer yn Llwyngwril cyn iddo fyned i bregethu yn gyhoeddus, ac ar ol hyny; ac yr oedd ei hynodrwydd gymaint yn hyn ag unrhyw beth a berthynai iddo, canys yr oedd ynddo ef gymwysderau nodedig i adeiladu a chysuro y saint. Yr oedd yn llygadgraff iawn i adnabod dynion, ac yn rhagorol yn ei fedrusrwydd i iawn gyfranu gair y gwirionedd at eu cyflwr, eu profiad, a'u hamgylchiadau. Os byddai rhyw frawd neu chwaer bron a suddo mewn iselder a digalondid, efe a'i derchafai i'r làn, ac a'i dyddanai â dyddanwch yr Ysgrythyrau, fel na byddai teithio rhai milldiroedd o ffordd, a hono yn un arw ac enbyd, yn ormod gan rai o'r cyfeillion a berthynent i'r eglwys yn Llwyngwril, i ddyfod yno i'r gyfeillach eglwysig. Yr oedd chwaer henaf yr awdwr yn un o'r rhai hyn, sef gwraig y Parch. E. Griffiths, Utica, America, oddiwrth yr