mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun â rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosâu, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais; a phan ddeall ai ei bod yn amser priodol i gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. "Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn eto, eisteddwch, y mae'n ddigon buan, ni ddaw yno ddim pobl y rhawg etto." "Dyma fi yn mynd," meddai yntau," dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther." Ofer fyddai ei berswadio i aros wrth undyn—ffwrdd ag ef yn ddi-ymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn ŵr tew a chorphol, Codai ei olwg ar yr areithfa, ac os dygwydd. ai ei bod yn lled uchel, dywedai, " 'Dat fi ddim yna, ni dda geni mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli— bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed." "Dyna fo, Richard Jones." Yna efe a safai arno, a'r Beibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan penodol ynddo a rag fwriadasai efe ei ddarllen. Darllenai y bennod neu y Salm gan ei hesbonio with fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd i blant yr Ysgol Sabbathol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuainc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Gwyddai ef hyn yn dda, a bu hyn yn brofedigaeth iddo rai gweithiau, megis y tro hwnw pan y digwyddodd iddo ddarllen Mat. xii : wrth ddarllen y rhan olaf o'r bedwaredd adnod ar hugain, fel hyn, "Nid yw hwn yn
Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/30
Gwirwyd y dudalen hon