Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynnwysid yn ei destun, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destun oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ei ym ddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawwyr ei fod yn feistr ar ei bwnc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir gormod camp fyddai i wŷr go ddirfrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, o herwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch a geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Beibl a'i ddodi ar y fainc o'r tu ol iddo, "Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau," y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn ei bregeth, dyma'r penill allan yn ddisaib"

Mi redaith tua'r fflamia
'Doedd neb yn mron o'm mlaen;
Rhyfeddu grâth ’rwyf heddyw
Na buathwn yn y tân:
Trugaredd râd yn unig
Sydd wedi'm cadw'n fyw,
Mae arnaf ddirfawr rwymau
I ganmol grâth fy Nuw."

Dywedodd un canwr ieuanc, Byddaf am fy mywyd yn gwylio yn niwedd pregeth Richard Jones am