ddechreuad y pennill, oblegid ni bydd ganddo un saib rhwng ei Amen a'i bennill, fel prin iawn y caiff un ei synwyr ato i chwilio am fesur priodol; ond y mae yn hawdd i'r canwr ac i'r prydydd faddeu iddo ryw ffaeleddau bach fel hyn gan mor dda y mae yn pregethu."
Ar ol diweddu y cwbl o'r gwasanaeth trwy weddi, edrychai am ei het a'i ffon, ac wedi byr ymgyfarch âg ychydig gyfeillion, hwyliai tua'i lety. Os dygwyddai fod y noson hono yn dywyll, ni syflai gam heb ryw arweinydd gonest a gofalus i'w dywys yno. Yn rhywle ar ol myned drwy ryw goedwig fechan, dywedai ei arweinydd wrtho, "Dyma ni yrwan, Richard Jones, yn ymyl y pontbren hwnw, os ydych yn ei gofio. Mae'n siwr ei bod yn lled dywyll heno, ond mi gymeraf ddigon o ofal am danoch chwi, gwnaf yn wir; ymaflaf yn eich braich, ac ni awn trosto yn araf bach, ac yn ddiogel." "Naddo i yn widdionedd i ddim droth i dy bompdden di heno." "O dewch, Richard Jones, dewch, mi gymeraf fi ddigon o ofal efo chwi, mi wn i am bob modfeddo honi, ac mi gewch chwithau gymeryd eich amser. Yrwan, Richard Jones." "Gollwng fy myddaich, fachgian, gollwng fi. mi af fi ffodd addall." "Dyn a'n cato ni, mae milldiro gwmpasi fyn’dy ffordd hòno, rwy'n siwr y mynyd yma. A fedrwch chwi ddim ymddiried cymaint â hyn yn ngofal rhagluniaeth i groesi rhyw afon fach fel hon?" "Taw a chadw thẃn, mae rhagluniaeth wedi rhoddi peth wel hyn i'n gofal ni ein hunain, tyr'd oddiyma yn y fynyd, awn ni ffodd addall, gwell gen i fyn'd ddwy filldidd o gwmpath na thoddi fy ethgyrn mewn rhyw le ofnadw wel yna." O dosturi at ei ofnusrwydd, ai ei arweinydd gydag ef rhwng bodd ac anfodd, gan synu wrtho ei hun fod dyn ẃmor gryf ei synwyr, a phregethwr mor dda, wedi y