cysurus gweision Crist am lawer o flynyddau. Yr oedd y teulu yn neillduol hoff o gyfeillach R. Jones, ac o wrandaw arno yn pregethu. Daeth ei gyhoeddiadau i law i fod yn Penarth, Jerusalem, &c. ac yn nhý rhyw foneddiges grefyddol ar ororau y Cymry a'r Saeson ger y Trallwm. Nid oedd un amser yn caru myned yn agos i'r Saeson; ond wedi hir grefu arno, efe a addawodd fyned i Allt-y-ceiliog a'r Trallwm. Pregethodd yn Mhenarth yn gyntaf, a thranoeth daeth i lawr i Brynelan. Nid oedd gwr na gwraig y tý gartref y pryd hwnw, na'r gweinidog ychwaith; neb ond y forwyn a Mr. Williams y meistr tîr. Ar ei fynediad i'r ty, gofynai R. Jones iddi am ei Meistr a'i Meistres, ac am y Gweinidog. Nid ydynt gartref yn awr, Sir, ebe hithau, ond hwy ddeuant adre cyn hir. Oeth yma gyhoeddiad i mi heno, dwad? Oes, Sir, ebe hithau. O'dd goreu, da iawn. Ar hyn eisteddoedd ar y gadair wrth y tân gyferbyn â'r Landlord cysglyd. Yr oedd hwnw yn hoff iawn o siarad, a holi pawb, ond ni fedrai air o Gymraeg. O'r diwedd deffrôdd, a chan edrych ar Jones yn ymddangos yn esgobaidd iawn yn y gong! arall, efe a ddywedodd wrtho, " Good morning, Sir", "Good moddnin, thyr," attebai yntau. "It is a very fine morning, Sir," meddai y Landlord. "Good moddnin", ebe'r Hen Lanc. "Did you see Mr. and Mrs. Davies any where?" "Good moddnin". "I am the Proprietor of this farm" ( ebe y Landlord ) "and I intend to improve it, do you know something about drainage?" "Wel wfft i ti, taw bellach, good moddnin," "dim thathneg." Ar hyn torodd y forwyn allan i chwerthin er ei gwaethaf. Trôdd yr hen frawd ati ac a ddywedodd wrthi (nid yn y modd sobraf, debygid) Wfft i tithau, lodath gellweruth, ai chwerthin am fy mhen i yn ceithio thiarad thaethneg
Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/40
Gwirwyd y dudalen hon