Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

yr wyt ti? Ni ddoe i byth ar gyfyl dy glawdd Offa di mwy." Pan ddaeth y Gweinidog adref, ac ymgyfarch â Richard Jones, aethant ill dau i ystafell o'r neilldu; ac yno mynegodd Richard Jones iddo pa fodd y buasai rhyngddo â'r Landlord a'r forwyn; ac ychwanegai, " Ydd wyf yn dy rybuddio yn awdd, Thomoth, nad â i ddim i dŷ Mrs. Roberts nôth y fory oth na ddoi di yno gyda mi bob cam, ac oth na thicrhei di na thyriadant un gair o thaesneg âmi." Felly y bu. A dyma y tro olaf iddo fod yno mwy. Bwriadodd ddyfod, ond nis gallodd.

Mawrhäed y gwŷr ieuainc hyny a ymgyflwynant i'r weinidogaeth, eu breintiau mawrion, a gofalant fod yn ddiwyd i wneuthur iawn ddefnydd o honynt, fel y byddont gymmwys, o bydd raid, i ddal cymdeithas â Landlords a ddigwyddant deimlo ar eu calon holi cwestynau iddynt, ac fel y byddo ganddynt ychwaneg ' i'w hateb na " good morning, Sir;" ac yn enwedig y medront i bregethu Crist nid yn unig yn agos i glawdd Offa, ond y tu hwnt iddo hefyd; ac fel na byddo raid iddynt, fel Richard Jones, dynghedu neb i attal y saeson rhag agor eu genau wrthynt.

Ar ol myned yn fanwl trwy ei gylchdaith dychwelai adref. Arosai ychydig wythnosau, gan bregethu ar y Sabbathau a nosweithiau yr wythnos yn ei hen ardaloedd, a byddai yn dda gan bawb ei weled a'i glywed. Ei arferiad cyffredin fyddai cyfansoddi tair neu bedair o bregethau newyddion yn y cyfnod hwn, fel darpariaeth gogyfer a'i daith nesaf. Yr oedd ei fyfyrgarwch yn ei ddiogelu ef rhag byw ar hen ystôr, oblegid gwyddis ei fod yn parhau trwy ei oes i gyfansoddi pregethau newyddion, ac ni fynasai er dim draddodi yr un bregeth fwy nac unwaith yn yr un man. Dygwyddai