i ambell un ofyn iddo cyn cychwyn i'r addoldy, " Beth a gawn ni heno Richard Jones?" " Tydd di yno fachgian, mae gen i bregeth newydd." Ni bu yr ysgrifenydd erioed yn ei gymdeithas ef na byddai yn teimlo adnewyddiad yn ei awydd i fod yn debycach i R. Jones mewn ysbryd myfyrgar, ac ymestyniad am newydd-deb. Yr oedd ganddo ddawn a medrusrwydd rhagorol yn newisiad testynau at wahanol achosion ac amgylchiad Er mwyn rhoddi engraifft o hyn, dodir hanes yr amgylchiad canlynol, yr hwn a ddigwyddodd pan oedd efe gartref.
Ar fynediad yr ysgrifenydd i gymydogaeth Llwyngwril i ymweled â'i dad oedranus, yr hwn oedd yn gorwedd ar ei wely angau, dywedai R. Jones wrtho, "Evanth, y mae eich tad yn bur thâl, mae o'n debyg o fyned i lawdd yn fuan fuan. O'r holl gyfeillion ag oedd yn dechreu'r achoth yma ac yn ardaloedd Llanegryn a Thywyn, 'doeth neb o honynt yddwan yn fyw ond eich tad a minau. Ac oth bydd yntau faddw o'm mlaen i, mi fydda i wedi fy ngadael fy hunan." Yna gorchfygwyd ei deimladau ef am funud neu ddau; ac wedi ymiachau ronyn, dywedai, "Evanth, mae gen i dethdyn rhagorol at bregeth angladd eich tad." Pa un ydyw, R. Jones? "Wel, y geiddiau acw yn 1 Bren. 19. a'r rhan olaf o'r ddegfed adnod--" a mi fy hunan a adawyd, a cheithio y maent fy einioeth inau." Dyna fo, R. Jones, eb ei gyfaill wrtho, gwnaiff y tro yn rhagorol. Ac nid yn ofer a fu ei ddewisiad o'i destyn, na'i ragfyfyrdod arno, canys marw wnaeth ei hen gyd-bererin yn "fuan fuan " ar ol hyn. Ac yn mrydnhawn dydd ei gladdedigaeth, tra ddododd Richard Jones ei bregeth ar y testyn hwn i dyrfa luosog ynghapel yr Annibynwyr yn Llwyngwril,