ychydig yn y gymdeithas eglwysig yno, ac heb fod erioed eto yn y pulpud. Aeth hwn ar nos sadwrn i ymweled â'i rieni yn ardal Llwyngwril. Mynegwyd iddo y cai efe glywed Richard Jones, Tŷ Du, boreu dranoeth : yr oedd yn llawen gan y llanc ddeall hyny, ohlegid ni chlywsai ef mo hono erioed o'r pulpud. Boren dranoeth, aeth y teulu i'r Capel, ac eisteddodd y llanc a'i dad wrth y bwrdd dan y pulpud, pryd yr oedd у R. Jones yn darllen Salm; ac ar ol hyny rhoddai bennill i'w ganu, a thra yr oedd y gynnulleidfa yn canu, dyma ef yn agor drws yr areithfa, ac yn taro ei law ar ysgwydd y bachgen, gan ddywedyd wrtho— "Tyr'd i i fynu, machgen i, tyr'd yma i dd'eyd tipyn o'm mlaen i." Dychrynodd y llanc trwy ei galon ac attebodd dan y grynu, Na ddof fi yn wir, mae arnaf fi ofn.Yna ymaflodd Richard Jones yn yngholer ei gôt ef, ac a ddywedodd wrtho, Mae'n ddhaid i ti ddwad." A gorfu ar y gwan crynedig fyned ato, a thrwy lawer o drafferth y medrodd ef gael ryw ychydig i'w ddweyd wrth y bobl. Ar ol gorpheniad y moddion, ar y ffordd wrth fyned ymaith, yn absenoldeb y bachgen, wele'i dad yn ofidus yn galw ar Richard Jones, ac yn dywedyd wrtho, " Richard, ni ddylasech er dim wneud iddo ddyfod i'r pulpud i geisio pregethu. 'Does ganddo ef ddim dawn i fyn'd yn bregethwr, ac fe fydd wedi tori ei galon." Ebe yntau, "Cymeddwch bwyll, cymeddwch bwyll, 'doedd dim coel addno heddyw, oblegid ei fod mor thwil. Peidiwch a deyd dim wrtho, cymerwch ofal, da chwi. Dewch i ni gael tyddeial addno am un flwydd yn beth bynag, fe ddaw rhywbeth o hono eddbyn hyny, neu fe fydd wedi myned i'dd dim." Diolch iddo am gyngor.
Mae llawer o blant yr Arglwydd ag ydynt yn awr