wedi myned adref, ac eraill sydd yn fyw, yn adgofio gydag hyfrydwch y cynghorion gwerthfawr a gawsant ganddo ef yn eu trallodau a'u helbulon. Yr oedd efe wedi ei gymhwyso yn rhagorol at y gorchwyl hwn, mewn dawn, gwybodaeth a phrofiad. Dywed un o'r teulu lluosog a fu gynt yn byw yn y Bwlchgwyn, ond ydynt yn awr yn wasgaredig yn nau chwarter y byd, fel hyn am dano ef—"Yr oedd Richard Jones gyda ni pan oedd ein hanwyl fam yn marw. Yr oedd deg o honom o'i gwmpas yn wylofain, ac yn ei gofleidio; ac nis annghofiaf byth ei gynghorion gwerthfawr i ni, a'i weddiau taerion trosom ni a'n hanwyl dad, yn yr amgylchiad difrifol hwnw. Yr oedd fy mrawd hynaf pryd hyny yn Llundain yn casglu at gapel yr Annibynwyr yn y Bermo."
Byddai ein cyfaill yn dra defnyddiol gartref ac ar ei deithiau nid yn unig yn yr areithfäau, ond hefyd yn yr Ysgol Sabbathol. Dygai fawr sel dros y rhan yma hefyd o waith yr Arglwydd. Byddai pob dosbarth pan y gwelent ef, yn ei wahodd am y cyntaf i'w plith er mwyn cael ei esboniadau rhagorol ar y rhanau o'r gair a ddarllenent. Llawer math o ymofynwyr am y gwirionedd a'i cwestiynent yn y cyfryw gylch. Rhai a'i holent ef oddiar yspryd cywreingarwch; eraill er mwyn dadlu yn unig; ac ambell un, ysywaeth, er mwyn cael digrifwch. Yr oedd yr hen athraw yn ddigon llygadgraff yn gyffredin i'w hadnabod, ac yn eithaf medrus i roddi i bob un ei gyfran briodol. Gofyn ai rhyw eneth ieuanc iddo pan yn darllen Mat. xix. 12, gan gymeryd arni fod yn ddidwyll a difrifol, "Beth sydd i ni ddeall, R. J. wrth yr enw digrif yma sy bum waith yn yr adnod hon?" " Dyw o ddim o futhneth merched ieuainc i holi yn nghylch pethau wel hyn."