Ac am ei haelioni at achosion crefyddol, yr oedd hefyd yn ganmoladwy.
Pen. VII.
DYCHWELIAD R. J. O'I DAITH OLAF, I FYNED I FFORDD YR HOLL DDAEAR.
Ar ol cylchymdeithio trwy holl Gymru am flynyddoedd lawer, gwelwn ein hen gyfaill yn dychwelyd adref o'r diwedd i rodio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelai.
Nid oedd fawr o bryder ynddo un amser gyda golwg lle y byddai farw ynddo, pa un ai gartref, ynte ar ei daith, y cyfarfyddai ag angau. Gofynodd chwaer hynaf yr ysgrifenydd iddo pan ar ei gychwyniad i un o'i deithiau, " Richard Jones, a fydd arnoch chwi ddim ofn marw oddicartref?" "Dim Betsy, dim," ebe yntau,"dyw obwyth yn y byd yn mha le na pha bryd, y mae'r pàu bach yn barod; ffarwel i ti yddwan." Teimlodd rhywun awydd hysbysu i dywysogaeth Cymru, a hyny flynyddoedd yn gynt na phryd, fod Richard Jones Llwyngwril, wedi marw, Fe allai mai nid oddiar un bwriad maleis ddrwg y gwnaed hyn, ond yn unig oddiar ddifyrwch anystyriol. Fodd bynag am hyny, gormod oedd hyn i'w wneyd â neb, yn enwedig â gŵr o gymeriad mor gyhoeddus ag ef. Achosodd y gau -hysbysiad hwn drallod nid bychan i gannoedd, ac yn enwedig i Richard Jones ei hun ac i'w berthynasau. Dywedodd rhyw gyfaill wrtho ef, " Wel Richard Jones, mi glywais i eich bod wedi marw ! " Wel yn widd " ebe yntau "clywais inau hyny hefyd, ond mi wyddwn i gynted ag y clywaith i mai celwydd