aidd. Aeth yn ddyryswch ar yr atebwyr, ac yn y dyryswch y gadawodd yr holwr hwy. Yr oedd hynny dros hanner can mlynedd yn ol, a phrin yr oedd y dadleuon brwd a fu yng Nghymru ar y pwnc wedi oeri ar y pryd. Un tro arall, tua 'r un adeg, digwyddodd peth tebyg yn y Coedpoeth. "Bu 'r cyfeillion," ebr Mr. Ifor Jones, "yn hir cyn cwbl faddeu iddo am hyn, a hynny yn bennaf am fod rhai o enwadau ereill yn bresennol, a bod y Wesleyaid yn neilltuol yn llawenhau o'r herwydd." Hwyrach fod y sylw diweddaf yn awgrymu paham y digwyddodd y dyryswch, ac mai bwriad yr holwr oedd dangos fod dwy ochr i bob dalen.
Ym mis Tachwedd, 1871, cyflwynodd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Rhuddlan ddiolch iddo "am ei lafur a'i ffyddlondeb fel Arholwr y Dosbarth am y tymor hirfaith o bum mlynedd ar hugain," ac amlygwyd "gofid dwys o herwydd gorfod cydsynio â'i gais trwy dderbyn ei ymddiswyddiad; eto, teimlent mai eu dyledswydd ydoedd talu 'r cyfryw warogaeth i'w gais ag a haeddai mor deilwng oddi ar eu dwylaw." Arwyddwyd y penderfyniad dros y Cyfarfod Ysgolion, Tachwedd 26, 1871, gan David Williams, Llywydd; a J. R. Hughes, Ysgrifennydd.
Ym mis Rhagfyr, 1877, cyflwynodd Ysgolion Dosbarth Rhuthyn dysteb iddo, yn arwydd o'r gwerth yr oeddynt yn ei roddi ar ei wasanaeth. Cynhaliwyd cyfarfod mawr yng nghapel Llanfwrog i gyflwyno'r dys- teb. Llywyddwyd gan y Parchedig John Foulkes, a chafwyd anerchiadau ganddo ef, y Parchedigion William Evans, Rhuthyn; a D. Morien Davies, Gyffylliog; Mr. David Jones, Cae Glas, ysgrifennydd y Dosbarth; Mr. Ezra Roberts, Rhuthyn; Mr. William Jones, Pen y Parc, Llywydd y Dosbarth; y Parchedig Owen Evans, Rhuthyn; Mr. Ioan Jones, Rhuthyn;