COFIANT THOMAS GEE.
PENNOD I.
EI DEULU.
YR oedd Thomas Gee yn gymaint gwerinwr wrth egwyddor fel na fynasai na mantais na chlod yn y byd oblegid ei hynafiaid. Disgynnai, ar du ei dad, o deulu a fu flaenllaw a grymus yn Sir Gaer unwaith; ac ar ochr ei fam, tarddai o deulu a fagodd fwy nag un gŵr galluog o'i flaen ef. Ysgrifennodd yr Arglwyddes Verney ato un tro i ddywedyd ei bod hi, wrth chwilio rhyw hen lythyrau a chofnodion teuluaidd, wedi cael allan fod gŵr a'i enw Gee yn un o bleidwyr alltud Siarl y Cyntaf yn Blois, yn 1650, a gofynnodd ai tybed ei fod ef o'r un waed a hwnnw. "Nid oedd debyg i chwi, wrth a welaf fi," ebr hi, "canys gŵr prudd, di-galon a thawedog ydoedd." Yr un adeg, yr oedd un Syr William Gee yn ysgrifennydd Cromwell. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol York. Bu hefyd wŷr a elwid Gee yn Seneddwyr tros rannau o Ogledd Lloegr yn fynych yn ystod hanner olaf yr ail ganrif ar bymtheg. Ond ni chymerth Thomas Gee ddyddordeb yn y byd yn y pethau hyn. Coll amser y galwasai ef ym- chwil o'r fath. Nid am ei fod yn fab i'w dad y mynasai ef unrhyw fraint. Ac eto, yr oedd un olwg ar ei wyneb glân, cadarn, a'i osgedd urddasol yn ddigon i