argyhoeddi dyn ar unwaith fod Thomas Gee yn un o'r Goreuon o ran gwaed hefyd. Pa beth bynnag a ddy- wedasai ef ei hun ar y pwnc, y mae gan ei gydwladwyr hawl i gymaint âg a ellir ei gael o hanes ei hynafiaid.
Yn Sir Gaer, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a chyn hynny, yr oedd teuluoedd, yn dwyn yr enw Gee, yn adnabyddus, a rhai aelodau o honynt yn llenwi lleoedd anrhydeddus yn ninas Caerlleon. Bu un, Henry Gee wrth ei enw, yn Siryf y ddinas yn 1527-8, ac yn faer yn 1533-4 a 1539-40. Nid oes sicrwydd o ba le y daeth ef i'r ddinas, ond tybir mai o Sir Gaerefrog, a'i fod yn tynnu at ganol oed pan gartrefodd yng Nghaer, canys ymhen pymtheng mlynedd wedi iddo ef fod yn Siryf, penodwyd ei fab, Edmund, i'r un swydd. Dengys ei ewyllys fod ganddo gryn eiddo, heblaw ei fusnes fel brethynnwr. Yr oedd ganddo diroedd ym Molesworth a Little Molesworth, Manley, Manley Elton ac Almonley, yng Nghaer ac ym Manchester. Crybwyllir dau fab, Rondell ac Edmund, a thair merch, Ann, Elizabeth, a Margaret, yn yr ewyllys. Yr oedd Elizabeth yn briod â gwr â'i enw Shalcrosse cyn marw ei thad. Y meibion, Rondell ac Edmund, oedd yr ysgutorion, a'u hewythr, Edward Janney, i wneud y gwaith pe gwrthodasent hwy. Ym mhlith tystion yr ewyllys, enwir "Dame Jane Lee, my sister-in-lawe." Bu Henry Gee farw y pedwerydd dydd o Fedi, 1545, a chladdwyd ef yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Watergate Street. Gwelodd felly ddechreuad y Diwygiad Protestanaidd, ond y mae'n debyg nad oedd y grefydd newydd yn gwbl wrth ei fodd. Tebyg nad oedd ei weddw yn fam i'w feibion, nag ychwaith i'w ferch Elizabeth, canys yr oedd yn ddigon ieuanc ar ol ei farw ef i ail briodi âg un Syr William Calverley, o Sir Gaerefrog, a bu iddynt dri o Ganed hi, ond odid, yng Nghaer, a merch ydoedd i Richard Sneyd, o Bradwell, Swydd Stafford, blant.