Cofiadur Caer rhwng 1512 a 1535. Chwaer iddi hi oedd y "Dame Jane Lee," a nodwyd uchod. Rhaid fod Henry Gee yn ŵr hardd neu oludog-yn wir, y tebyg yw fod golwg a golud o'i du-cyn yr ystyriasid ef yn gymar cymwys i ferch y Cofiadur. Pa un bynnag, ymddengys mai y cariad cyntaf oedd oreu ganddi hi, canys ymhen tri deg a phedair o flynyddoedd, claddwyd hi yn yr un bedd â Henry Gee a'i fab Edmund, ac y mae adlais cariad ieuenctid yn y pennill a dorrwyd yn null yr oes ar y plât pres ar y bedd:-
"Dame Elizabeth Heare Interred is
That Ladie was of Late
To Calverley Knighte But first Espoused
To Henry Gee Her Mate
Who ruled Heare a Patron Rare
As Cittie Well can showe
Thus She in Worship Run Her Race
And stille in Virtue Grew."
Er fod yn ddiameu fod Thomas Gee yn disgyn o'r teulu hwn, y mae 'n anffodus hyd yma yn amhosibl cwblhau yr achau o ddiffyg cofnodion cyfeuon. Y mae'r hyn sydd hysbys am Henry Gee, pa wedd bynnag, yn dangos fod yn ei gymeriad lawer o debygrwydd i gymeriad Thomas Gee. Yn oes Henry Gee, yr oedd gan Faer y ddinas awdurdod helaeth iawn, er nad oedd popeth ychwaith tan ei law. Yr oedd yn y ddinas o leiaf bedwar sefydliad âg i bob un ei lys ei hun. Byddai hynny weithiau yn rhoddi cyfle i ambell droseddwr ddianc rhag cosb y gyfraith, ac o'r herwydd, byddai'r Maerod ar dro yn mynnu cael diwygiadau er lles y lliaws.* Un felly oedd Henry Gee-trefnwr a
- "The Mayor excercised firm and judicious control over the various trades of the city, especially in the supply of bread and