Rhoddodd papur newydd y clod am yr englyn hwn i Gwydderig unwaith, ond ar dystiolaeth Gwydderig ei hun, Watcyn Wyn a'i cânt
Llawer dengawr dreuliodd hyd lwybrau'r ardd, a hyd y lawnt, yn dehongli iaith bywyd yn y planhigyn a'r gangen. Golwg fawr fyddai'r olwg arno, hwyrddydd haf, yn difyr gerdded y llwybrau, a'i gysgod mwyn yn ei ddilyn o lwyn i lwyn, gydag englyn neu gân yn y wê. Llawer cyfaill a rodiodd gydag ef hyd y llwybrau ym min yr ardd a'r cae; llawer ergyd ffraeth a roed, a llawer "pwl o beswch" a gafodd y Bardd, wedi'r chwerthin iachus. A llawer cysgod mawr a bwysodd ar laswellt blodau min y ffordd. Heddyw dyma Brifardd yn rhodio'r tir gam yng ngham â'r gwestywr, ac ymhell i mewn ym myd y Gadair a'r Goron. "Hwfa Môn " ydyw! Ac wedi pwyso a chloriannu, dyna ergyd ffraeth sydyn oddiwrth Watcyn Wyn nes bod y ddwyfraich yn datgysylltu, a'r Archdderwydd yn ymysgwyd â'i chwerthin; ac yna pesychiad mawr dros y tir—digon i lanw'r cae!
Yfory, cerddor gwych fydd yr ymwelydd, Dr. Joseph Parry, Mr. Emlyn Evans, Mr. David Jenkins, Mr. William Davies, Eos Morlais, Eos Dâr, Mr. Ben Davies, neu Mr. David Hughes; a bydd deuawd y "Bardd a'r Cerddor" yn cerdded y tir mewn chwerthin heintus.
Yn araf heddyw; Barnwr sydd yn rhodianna gyda'r Bardd. Gall mai'r Barnwr Gwilym Williams ydyw—un o gyfeillion agosaf Watcyn Wyn; hwyrach mai'r Barnwr Edwards, o'r America, ydyw, wedi croesi i Eisteddfod yng Nghymru, ac wedi cyrraedd y Gwynfryn ar ei dro! Yn araf! Nid i hynny y daethai'r naill Farnwr na'r llall yno, ond i rodio hyd lan ffrydlif arabedd y Bardd, a chwerthin fel bechgynnos y fro!
Daeth tro yr ysgolhaig! Syr John Rhys, neu Syr Edward Anwyl, heddyw! Rhodianna'n sych syber, fel pe daethai pwysau anrhydedd y Brifysgol yr holl ffordd ar eu hysgwyddau! Na, codai'r glaswellt eu pennau mewn syndod at hynny! Chwerthin fel llin y mynydd yn yr awel! A gallech deimlo'n sicr na fai pethau ddim gwell pan alwai Mr. Llewelyn Williams, heb son am y Parch. Towyn Jones, â'i chwerthin arian! Ac am Gwili, bu efe byw am dymor hir yn y Gwynfryn, pan yn athro yn yr ysgol yno, a cheisier