Teithio yn y trên yr oedd efe a'i hen gyfaill difyr Dr. Joseph Parry, a rhyw wladwr ymholgar, yn yr un cerbyd, wrth eu clywed yn siarad ar faterion cenedlaethol, yn dyheu am wybod pwy oeddynt, yn dywedyd, " Pwy gaf fi ddweyd ydych chwi?" "O," ebe'r Doctor, "Josi Parry wyf fi, a Watcyn Hezeciah yw yntau." "Yr annwyl fach," meddai'r gŵr, "a finne'n meddwl 'mod i'n sharad â dynion enwog!" Ac ni holodd y gwladwr ddim ychwaneg: teimlai ei fod wedi mynd yn ddigon pell i dir cyffredin.
Gallodd dybio am amgylchiad y rhoddasai ei enw barddol adnabyddus ef dan anfantais. Prin, yn ol ei dŷb ef, y gallai unrhyw Brifysgol feddwl am ei anrhydeddu ef â gradd o Ddoctor mewn Diwinyddiaeth, oblegid," meddai, "swnio'n od iawn wnelai Watcyn Wyn, D.D.'
Yr oedd Cwmgarw, ei hen gartref genedigol, yn hen annedd enwog yn y fro. Yma y cychwynnwyd yr achos Annibynnol yn y lle. "Efe," meddai Watcyn Wyn, "oedd tad holl dai'r gymdogaeth. Yr oedd fy hynafiaid wedi byw am oesoedd ynddo, mor bell ag y gwn i.'
A phan ddaeth yr hen furiau trwchus i lawr, agos ar ben y teulu, ac i ddigon o gerrig ddisgyn o un talcen i godi tŷ newydd, meddai bachgen oedd yn byw y tu arall i'r heol:—
Wel, wel, dyma hen dŷ newyrth wedi mynd, dyna rybudd i'n hen dŷ ninnau i fod yn barod." Ar waetha'r cwymp, glynodd Hezeciah, y tad, wrth yr hen dŷ nes y daeth y tŷ newydd yn barod, ac meddai hen feddyg o'r lle wrtho:— "Weles i un dyn ario'd yn iwsio'i dŷ mor lwyr a ti, Hezeciah." A phobl yn mynnu gwasanaeth eithaf pob peth oedd pobl yr hen ardal Gymreig hon.
Nid oedd gan y Bardd gystal gair i'r tŷ newydd ag i'r hen—" dim mor gartrefol "; ac meddai, "Yr oeddem yn gallu gweled y nefoedd drwy simnai'r hen dŷ, ac yn wir, yr oedd cryn dipyn o nefoedd o'i fewn hefyd, oblegid yr wyf yn cofio yn dda fod nhad a mam a newyrth Owen yn canu yn amlach na dim arall yno," Gwelodd ei hun eilwaith "wrth dân yr hen dŷ":—
Y pentan yn gynnes, |