gelwid ef, cymeriad diddorol, a mab i bregethwr' enwog yn ei ddydd —un, meddai'r diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, y dylesid ei enwi gyda "Williams o'r Wern," ac eraill—y Parch. Thomas Davies, Abertawe, a Phentre Estyll, ar ol hynny— yr oedd yn dod i un o golegau y werin. Yno yr oedd "siarad politics," a darllen yr "Amserau," dilyn llythyrau " Yr Hen Ffarmwr," ac yn credu William Rees bob gair." Yma y gwnaeth ei bennill cyntaf, hyd y cofiai, pennill ar Y Ci Kiper," hen gi ffyddlon o eiddo "bechgyn Penygraig," "ffafryn yn ein mysg," ac yn ymladd ymron bob dydd â chŵn mewn ffermdy o'r enw Cwmaman :—
Y ci Kiper ydyw'r ffloger,
Pan y byddo'n mynd tua'r Gwter;
Mae yn curo cŵn Cwmaman,
Pan na byddo ond ei hunan.
Yr oedd yn bennill buddugol, a'r wobr oedd blychaid o matches. Cafodd ambell wythnos o ysgol ar ol hyn, dan ofal Mr. George Gill, gŵr a ddaeth wedi hynny yn gyhoeddwr y llyfrau ysgol dan yr enw George Gill a'i Fab; a than ofal Mr. Thomas Jones, arolygwr ysgolion wedi hynny. Bu Mr. George Gill yn ysgol—feistr i lenor a nofelydd enwog arall—Mr. Hall Caine, yn Lerpwl, fel y gwelir yn "Hall Caine, the Man and the Novelist," gan G. Fred Kenyon. Yr oedd ei fryd ar ei ddiwyllio ei hun cyn foreued a hyn, oblegid pan ddigwyddai'r lefel fod yn segur ambell ddydd, byddai Watcyn yn dywedyd wrth ei gyfeillion ieuainc, "Gadewch i ni fynd i'r ysgol am ddiwrnod, boys," ac i'r ysgol yr elent, ar ei awgrym, canys yr oedd yn arweinydd yn eu mysg. Nid oedd bendith o chware ofer am ddiwrnod ar y Rhosfa, pan yr oedd cyfle am oriau o addysg ar law Mr. Jones, neu Mr. Gill.
Y fath oedd awydd bechgynnos y" Rhosfa" am eu diwyllio eu hunain, fel y sefydlasant drysorfa fechan, i'r hon y bwrient. eu ceiniogau, gan brynu llyfr yn ol eu gallu, a'i anfon o gylch i'w ddarllen. Llawer llyfr Cymraeg da a ddarllenwyd, a llawer cân a ddysgwyd, gan fechgyn y "Rhosfa" yn y dull teilwng hwn.
Dyna fyd mebyd Watcyn Wyn, a mawr ei fendith o'i feddu.