Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hawdd y gellid disgwyl galar—gân fyddai byw wedi'r profiad hwn, a chaed hi:—

MARY annwyl, annwyl, annwyl,
Dyma ddechreu caled waith,
Dechreu cân, a dim i ddisgwyl
Drwyddi, ond wylo dagrau llaith;
Galar ganu, galar wylo,
Ceisio rhoddi hiraeth lawr;
Ysgrifennu sill i foddio
Dyfnder teimlad—hiraeth mawr.

Wyt ti'n cofio'r tyner siarad
Am yr un a fai ar ol ?
Pan yng ngafael breichiau cariad,
Y cyd—rodiem dros y ddôl?
Y mae un yn awr yn cofio—
Cofio'r geiriau bob yr un,
Ie'n cofio, ac yn teimlo,
Ac yn wylo wrtho'i hun.

****
Wyt ti'n cofio'r breuddwyd hynny,
Ar ryw fore ddarfu'm ddweyd,
Fod y gwanwyn wedi methu
Glasu fel yn arfer gwneud?
O, fe gostiodd ei ddehongli
I mi ffrwd o ddagrau drud—
Pan y gwelais yn y glesni,
Bridd dy fedd yn llwyd i gyd.

Newid mawr a phendant oedd oreu bellach, ac ym mis Ionawr, 1872, aeth i Ferthyr, i ysgol a gynhelid yno gan Mr. Evan Williams, M.A., ac a elwid yn "Tydfil School." Diwrnod "oer, gwlyb, diflas," oedd y diwrnod y gadawodd ei hen gartref, a'i gartref newydd wedi'i chwalu mor sydyn, ac yntau " ymron marw o hiraeth wrth adael" y cyfan. Nid oedd yr olwg a gafodd ar Ferthyr y prynhawn hwnnw yn enillgar iawn, ac yr oedd pawb yn ddieithr iddo ond yr athro, yr hwn oedd gyfyrder iddo. Syrthiodd ei goelbren i blith y boarders, a daeth i fwyta yn well, wrth weld y bechgyn yn bwyta." Yr oedd ganddo air caredig i'r ciniaw, ond prin yr oedd y tê i fyny â safon tê'r Mynydd Du, gyda'r bwrdd crwn ger y tân, a'r