Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HOGI'R CRYMAN.

CYN myned i mewn i'r Coleg, efrydodd yn Ysgol Ragbaratoawl un Mr. Thomas Jeremy, yng Nghaerfyrddin, i'w gymhwyso'i hun mewn "Lladin a Groeg," y rhai na wnaethai fawr â hwy ym Merthyr. "Felly," meddai, yn llawn chware, arholiad neu beidio, yr oedd yn rhaid ymroi ati, i forio neu foddi yn y culfor rhwng Groeg a'r Eidal." A chyda helynt Paul yn ei feddwl, wrth atgofio'r arholiad, meddai ei ffraethineb gogleisiol, "Ac wedi i ni yn brin fyned heibio, daethom i ryw le a elwir y Porthladdoedd Prydferth." Pa mor "brin" oedd y "myned heibio," ni wyddom; gwyddom mai nid nyni biau italeiddio'r llythrennau; ond ni synnem ddarganfod iddo sefyll yn bur anrhydeddus yn rhestr yr ymgeiswyr. Nid rhyfedd galw'r hen goleg yn "Borthladdoedd Prydferth," oblegid ar ol mordaith fer a garw" y cyraeddasai yno yn 1875, ac yr oedd lliw tymhestloedd y ddwy flynedd cynt ar ei brofiad.

Blynyddau disglair ar hen Goleg Caerfyrddin oedd blynyddau myfyrdod yr efrydydd a'i gyd-efrydwyr. Yn Brifathro, dros ei dymor ef yr oedd Dr. Vance Smith; ac yn Broffeswyr, yr oedd y Parch. Rhys Jenkin Jones, M.A., Aberdâr; y Parch. William Morgan, a'r Parch. D. E. Jones, M.A. Yr oedd ei edmygedd o'r Prifathro yn fawr iawn. Hoffai ryddfrydigrwydd ei ysbryd, a'i barch i wirionedd. Yr oedd hoffter y Prifathro o'r disgybl yntau yr un mor fawr. Nid pell o fod oedd y yn yr un seiat yr oedd y ddau ysbryd. Gadawodd y Prifathro argraff annileadwy ar feddwl y disgybl, a rhoddodd liw ac osgo i'w feddwl.

Gwr mawr, ac annwyl ganddo oedd y Proffeswr William Morgan. Mynych y soniai am dano gyda pharch diledryw. Ymhlith ei gyd-efrydwyr yr oedd y gwŷr adnabyddus—J. Gwenogfryn Evans, M.A., D.Litt.; Parchn. J. M. Gibbon, Llundain; Tyssul Evans, M.A., B.Sc., E. Griffith Jones, B.A., D.D. (Prifathro Coleg Bradford); Elfed Lewis, M.A.,