Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dangosai ei hun yn awr yn wyliedydd dewr, ffyddlon, eiddigeddus, dros gymeriad crefyddol a moesol ac iawnderau gwlad ei dadau, yn erbyn difenwadau maleisus ei holl elynion o bob gradd, o'i mewn ac oddiallan iddi. Rhoddodd engreifftiau o hyn mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddodd yn y Patriot ar "The Church in Wales." Bu esgobion Llandaf a Thy—Ddewi yn euog o'r pechod anfaddeuol o ddifrio Ymneillduaeth Cymru mewn anerchiadau a draddodasent yr adeg hon ar eu hymweliadau esgobawl. Wele ein harwr ieuanc i'r maes yn y fan yn eu herbyn mewn llythyrau ymresymgar, grymus, boneddigaidd yn y Principality a'r Universe. Mor foneddigaidd oedd yr atebion hyn fel yr ysgrifenodd ei arglwyddiaeth o Landaf lythyr cyfrinachol ato, yn mawr ganmol y fath foneddigeiddrwydd anghyffredin mewn gweinidog Ymneillduol; ac am ei ymresymiadau, ymddygodd ei arglwyddiaeth fel un yn teimlo fod y rhai hyny yn anatebadwy—ni cheisiodd ateb un o honynt.

PENNOD VIII.

EI FYWYD A'I LAFUR YN NHREDEGAR (Parhad).

CYNWYSIAD:—Hanes "Brad y Llyfrau Gleision."

Y MAE genym yn awr i roddi hanes llafur pwysicaf Ieuan Gwynedd yn ystod ei arosiad yn Nhredegar y rhan a gyflawnodd yn mrwydr fythgofiadwy "Brad y Llyfrau Gleision." Hwn, yn ddiau, oedd prif orchestwaith ei holl fywyd, ac a'i dyrchafodd i fyny i binacl uchaf ei enwogrwydd yn mysg ei genedl a thrwy y deyrnas oll. Bydd y swyn hynod sydd yn amgylchu yr enw IEUAN GWYNEDD," a'r bendigedigrwydd sydd yn gorphwys ar ei goffadwriaeth i'w filoedd cydoeswyr sydd eto yn fyw, yn gwbl ddirgelwch i'w oloeswyr heb gael rhyw syniad am fawredd ei wrhydri a'i wasanaeth yn y frwydr fawr hono. Bydd felly yn ofynol i ni roddi adroddiad manylach o helyntion y frwydr hono, ac o'r rhan a gymerodd yntau ynddi, nag o unrhyw amgylchiad arall yn ei holl fywyd.

Creasai Factories' Bill Syr James Graham yn 1843, y cyfeiriasom eisoes ato, ddyddordeb cyffredinol yn y pwnc mawr o addysg trwy yr holl deyrnas. Agoresid llygaid Eglwyswyr ac Ymneillduwyr i weled fod addysg ac ysgolion dyddiol yn alluoedd o'r pwys mwyaf tuag at gyrhaedd amcanion sectyddol. Deffrodd yr Ymneillduwyr o'u cwsg i bleidio y Gymdeithas Ysgolion Frytanaidd a Thramor, a sefydlesid ychydig flynyddau yn ol tuag at godi ysgolion ansectaidd, a llwyddasai y Gymdeithas hono i godi lluaws o ysgolion ar ei hegwyddorion rhydd ei hun yn mhob. parth o'r deyrnas. Yu nechreu 1846 daeth y National Society—Cymdeithas Addysg yr