Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwys Sefydledig—allan gyda zel a haelioni mawr i gynhyrfu y Llywodraeth a'r wlad o blaid addysg y werin. Nid oedd cyfraniad arian gan y Llywodraeth tuag at addysg y wlad y pryd hwn ond peth cymhariaethol newydd. Ychydig filoedd o bunnau, yn 1833, oedd cyfraniad cyntaf y Llywodraeth Brydeinig tuag at addysg y bobl. Cyn y flwyddyn hono dygid Addysg gyffredinol yn mlaen ar yr egwyddor wirfoddol, ac i fesur mawr trwy lafur a haelioni clerigwyr a lleygwyr cyfoethog yr Eglwys Sefydledig. Yn 1839 y sefydlodd y Llywodraeth y Pwyllgor Addysg cyntaf, tuag at weithio allan ei phenderfyniadau gyda golwg ar Addysg y deyrnas. Ni chyfranodd y Llywodraeth tuag at addysgiad y werin, o 1833 hyd 1847, dros £720,000; cyfranodd y National Society yn 1847 yn unig dros £874,000. Yn 1845 anfonasai y Gymdeithas hono ddirprwyaeth i ymchwilio i ansawdd addysg yn yr ysgolion Eglwysig trwy Loegr a Chymru. Datguddiodd yr ymchwiliad hwnw y fath amddifadrwydd gresynus o ysgolion ac o unrhyw gyfundrefn effeithiol o addysg yn Nhywysogaeth Cymru, fel yn 1846 yr ymffurfiodd nifer o foneddigion Cymreig yn Gymdeithas, dan yr enw "The Welsh Education Society," a than lywyddiaeth Iarll Powys. Eglwyswyr oeddynt oll, ac amcan y Gymdeithas oedd cyfranu addysg yn ei holl ysgolion yn unol âg egwyddorion yr Eglwys Sefydledig." Cynhyrfodd ymdrechion a llwyddiant y Gymdeithas Eglwysig foneddigion eraill yn y Brifddinas, mwy rhyddfrydig, os nad mwy gwladgarol, i ffurfio Cymdeithas arall dan yr enw "The Cambrian Education Society," er cefnogi addysg ar egwyddorion anenwadol. Effaith pwysig arall a gynyrchodd Adroddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig am gyflwr alaethus y Dywysogaeth oedd cynhyrfu Mr. W. Williams, yr A.S. dros Coventry, yn Mawrth, 1846, i ddwyn achos addysg Cymru ger bron Tŷ y Cyffredin. Yn ei araeth darluniai Gymru gwlad ei enedigaeth—fel yn gorwedd yn nyfnderau isaf anwybodaeth ac anfoesoldeb, a bron yn gwbl amddifad o unrhyw foddion effeithiol o addysg. Y canlyniad fu i'r Llywodraeth benderfynu anfon dirprwyaeth yn ddioed i'r Dywysogaeth i wneyd ymchwiliad trwyadl i ansawdd addysg yn y wlad.

Yr oedd ein gwlad fechan yn awr i sefyll prawf ger bron Prydain a'r byd ar ei chyflwr addysgol a moesol. Er ei bod o fewn yr un ynys fechan, dan yr un llywodraeth, megys am y 66 Clawdd," a gwlad y Saeson, yr oedd iddynt hwy, i fesur mawr, yn "terra incognita"—yn wlad estronol anadnabyddus. Yr oedd ei hen iaith fyw yn llawer llai adnabyddus i ddysgedigion Lloegr nag ieithoedd meirwon Groeg a Rhufain; ei harferion cenedlaethol yn llawer llai hysbys na'r eiddo Ffrainc a'r Almaen a Rwssia; a'i chrefydd—ei Hymneillduaeth yn llai dealladwy iddynt, a llai goddefadwy, na Phabyddiaeth Itali, Mahometaniaeth Twrci, a Hindwaeth India y Dwyrain. Barnodd y Weinyddiaeth a Phwyllgor Addysg mai y gwŷr cymhwysaf i archwilio ansawdd addysgol a moesol Cymru, ac i ffurfio barn deg arni, oedd tri o Saeson cwbl anwybodus o'i hiaithtri o foneddwyr wedi eu haddysgu yn Mhrifathrofeydd Rhydychain a Chaergrawnt, ac wedi treulio eu blynyddau dilynol yn nghylchoedd