Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchel, coethedig y Brifddinas, ac felly nas gallent feddu y cydymdeimlad lleiaf a chwaeth ac arferion cylchoedd gwledig ei dyffrynoedd a'i chymoedd hi—tri o Eglwyswyr, ac os yn Eglwyswyr egwyddorol, oeddynt yn elynion egwyddorol i'w Hymneillduaeth genedlaethol hi. Y tri boneddwr hyn oeddynt Mri. H. Vaughan Johnson, yn Siroedd y Gogledd; Jelinger C. Symons, yn Siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Maesyfed, a Mynwy; a R. R. W. Lingen, yn Siroedd Penfro a Morganwg. Yr oedd yn rhaid i'r tri uwchddirprwywr Seisonig hyn wrth ddeg o îs—ddirprwywyr o Gymry i'w cynorthwyo. Yn gwbl naturiol, fel Eglwyswyr cyson, y prif oraclau yr ymgynghorasant â hwynt yn newisiad y deg cynorthwywr hyn oedd yr Esgobion ac arch offeiriaid yr Eglwys yn Nghymru. Ymgynghorasant hefyd âg ychydig o barchedigion Ymneillduol Cymru y cawsent allan eu bod yn bleidiol i roddi addysg eu gwlad i fyny i ddwylaw y Llywodraeth. O'r deg is—farnwyr hyn oeddynt i benderfynu cymeriad addysgol a moesol ein cenedl, yr oedd tri yn Ymneillduwyr a saith yn Eglwyswyr, ac o'r saith hyny yr oedd pump yn egin clerigwyr o Goleg St. Dewi, Llanbedr. Fel hyn yr oedd cyfansoddiad y ddirprwyaeth hon ynddi ei hun yn sarhad cyhoeddus ar Ymneillduaeth Cymru, ac yn rhybudd argoelus yn y cychwyn pa fath brawf a dedfryd oeddym i'w dysgwyl fel cenedl. Anfonesid deisebau at y Llywodraeth yn erfyn am i un o'r tri dirprwywr, a haner eu cynorthwywyr, fod yn Gymry, ac, fel yr oedd naw o bob deg o'r genedl oedd i'w phrofi, yn Ymneillduwyr. Ond gan fod "y pen praffaf i'r ffon"—y ffon oll, yn wir—yn gwbl yn nwylaw Eglwyswyr, fel y gallesid yn hawdd ragweled, bu pob taerineb am degwch felly i Gymru yn hollol ofer. Rhoddodd un o'r tri cynorthwywr Ymneillduol (Mr. S. Dew, o Langefni) ei swydd i fyny yn mhen ychydig ddyddiau, ac un arall (Mr. H. Penry, o Lundain) yn mhen ychydig wythnosau, a phenodwyd dau Eglwyswr i lanw eu lle, fel mai un Ymneillduwr yn unig (Mr. W. Morris, o Ferthyr) oedd ar y ddirprwyaeth bwysig hon hyd ei therfyniad.

Lle yr oedd yr oll o'r dirprwywyr, a'r oll ond un o'u cynorthwywyr, yn Eglwyswyr, ac wrth eu swydd i brofi yr angenrheidrwydd anhebgorol i Gymru roddi ei haddysgiad i fyny i ddwylaw y Llywodraeth, hawdd y gallesid rhagweled y buasai y tystion a alwent i roddi eu tystiolaethau yn y prawf hwn arnom fel gwlad gan mwyaf o'r un blaid Eglwysig, ac yn bleidwyr yr un gyfundrefn wladol o addysg, a hwy eu hunain. Ac felly y bu. O'r 334 tystion y cawn yn yr Adroddiadau iddynt alw am eu tystiolaethau am gymeriad Cymru Ymneillduol yr oedd 232 yn Eglwyswyr—159 o'r rhai hyny yn offeiriaid, 76 yn Ymneillduwyr—34 o'r rhai hyny yn weinidogion, a'r oll o'r bron o'r Ymneillduwyr yn bleidwyr derbyn arian y Llywodraeth tuag at addysg y wlad.

Cyhoeddwyd Adroddiadau y tri dirprwywr yn 1847, yn gyfrolau mawrion trwchus mewn amleni gleision, ac aruthr oedd yr ystorm o ddigofaint a gododd y "Llyfrau Gleision" hyn—gleision oddiallan a duon oddimewn—trwy holl gylchoedd Ymneillduol Cymru. Yr unig lwybr i gyfleu i'r genedlaeth bresenol o ddarllenwyr unrhyw