Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddylddrych teg am aruthredd yr ystorm hono ydyw rhoddi ychydig engreifftiau o'r darluniau arswydlawn o honom fel cenedl a gyhoeddwyd yn yr Adroddiadau eu hunain, fel y galler casglu oddiwrth yr achos pa fath a raid fod yr effaith. Prif bynciau y ddedfryd a gyhoeddwyd arnom oeddynt y chwech canlynol;—Diffyg gwareiddiad—Diffyg gwybodaeth grefyddol a chyffredinol—Meddwdod—Anniweirdeb—Ein hiaith—Ein Hymneillduaeth.

1. Diffyg gwareiddiad. Fel hyn y darlunir plwyfydd Talyllyn a Llanfihangel yn y Sir hon (Meirionydd):—"Ymwelais â llawer o'r bythod yn Nhalyllyn a Llanfihangel. Mae cyfleusderau y tai yn druenus. Gwneir y bythod âg ychydig ddarnau rhydd o graig a chlai, wedi eu gosod ar eu gilydd heb na morter na gwyngalch. Pridd ydyw y lloriau, a chlwydydd plethedig ydyw y nenfydau, a llawer o honynt heb un ffenestr. Cynwysant un ystafell, yn yr hon y cysga y teulu oll. Weithiau gwahenir yr ystafell hon oddiwrth y gweddill o'r bwthyn â sypynau o wellt, yn ffurfio rhyw fath o gysgodlen. Ymddengys y bythod budron hyn fel y dull mwyaf dewisol o fyw gan y bobl hyn, y rhai nid ydynt yn ddim tlotach na'r tlodion yn Lloegr." Dyma ddarlun un o'r cynorthwywyr o Rosllanerchrugog yn Sir Ddinbych: "Ymwelais â rhai o fythod y glowyr yn y lle hwn; ac er i mi weled St. Giles, Cow Cross, Wapping, a rhanau eraill o'r Brifddinas lle y mae tai y tlodion yn anghymhwys i fyw yuddynt, ni welais erioed ddim i'w gymharu â rhai o'r bythod yn Rhosllanerchrugog o ran cyfyngdra, budreddi, ac anghymhwysder yn drigfanau dynol. Y maent yn gyffredin yn amddifaid o ddodrefn; ond mewn rhai o honynt cefais wely, yr hwn a wnaed i gynwys nifer dyblyg, trwy orwedd traed at draed. Cysga pobl ieuainc yn yr un ystafell, heb wneyd unrhyw gyfrif o oed na rhyw. Nid oedd gan un o'r tai hyn un geudŷ yn agos atynt, ac ni welais y fath beth yn yr holl bentref." Dywed Mr. Symons, "Mae y bythod y triga y bobl ynddynt yn druenus i'r eithaf yn bron bob rhan o'r wlad yn Sir Aberteifi, ac yn mhob rhan o Siroedd Brycheiniog a Maesyfed, oddieithr y dwyrain. Nid wyf yn ystyried bythod Cymru yn rhagori ond ychydig, os dim, ar gutiau y Gwyddelod yn y parthau gwledig. Nid oedd ond mewn ychydig o'r bythod hyn fwy nag un ystafell i fyw ac i gysgu ynddi. Mae y bythod a'r gwelyau yn fynych yn ffiaidd, a'r bobl yn fudron nodedig. Yn y Siroedd oll y maent yn gyffredin yn amddifaid o eudai, hyd yn nod yn y ffermdai; ac yn Siroedd Aberteifi a Maesyfed, oddieithr ar gyffiniau Lloegr, ceir y moch a'r ieir yn gydgyfranogion rhydd o'r ystafelloedd y maent yn byw ac yn cysgu ynddynt. Ceir cyflawnder o domenydd yn heolydd ac wtreoedd culion rhai o'r trefydd." "Mae y tlodion," ebai curad Brycheiniog, "yn dra anwybodus o bob peth ond pa fodd i dwyllo ac enllibio eu gilydd. Y maent fel pe baent heb un meddylddrych am gysuron bywyd. Mae yn y dref hon 2000 o bersonau yn byw yn y cyflwr ffieiddiaf, ac i bob ymddangosiad y maent yn mwynhau eu budreddi a'u diogi, oblegyd nid ydynt yn gwneyd unrhyw ymgais i ymwrthod â hwynt. Oddiar fy mhrofiad i o'r Iwerddon, yr wyf yn meddwl fod tebygol-