Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd mawr iawn rhwng y dosbarthiadau isaf o'r Cymry a'r Gwyddelod—mae y naill a'r llall yn fudron, yn ddioglyd, yn ddallbleidiol, ac yn foddlawn." Meddai curad plwyf mwnwyr Llanelli, " Mae eu tai bron oll yn amddifaid o'r cyfleusderau angenrheidiol i iechyd a chysur dynolryw; ac, oherwydd arferiad y gwrrywaid o ymddynoethi ac ymolchi yn ngwydd y benywaid, mae y terfynau arferol rhwng y ddau ryw yn cael eu dileu, a dangosir y canlyniad yn nghyffredinolrwydd bastardiaeth." Am ardal y Brynmawr, yr hwn a safai yn Adroddiadau y Dirprwywyr fel yn hollol ar ei ben ei hun yn mysg holl Fryniau Cymru yn uffernolrwydd ei gyflwr, dywed Mr. Symons, "Mae drygioni yn mhob ffurf yn orwyllt yn y parth hwn; anfoesoldeb yn teyrnasu yn mhob man, a phob dylanwadau daionus i fesur mawr yn ddinerth. Mae cyrff ac arferion y bobl bron mor fudron a threfydd a thai y fro dywyll yr heidiant ynddi. Mae yr holl ardal, oddieithr Newport, yn heigio o fudreddi, ac o holl gydymdeithion gallu anifeilaidd ac aflywodraeth moesol, heb bron un pelydryn o oleuni meddyliol nac ysbrydol. Mae bobl yn Ꭹ farbaraidd eu harferion, ac yn dynwared creulondeb adgas y rhai sydd mewn awdurdod arnynt. Mae yr holl ardal a'r boblogaeth yn cyfranogi o gymeriad haiarnaidd y metal a gynyrcha."

2. Diffyg gwybodaeth grefyddol a chyffredinol. Rhoddwyd yr engreifftiau canlynol a'u cyffelyb o'n diffyg gresynus o wybodaeth grefyddol a chyffredinol. Ar destynau crefyddol nid oes ganddynt nac iaith na llenyddiaeth." "Y dosbarth mwyaf anwybodus yn y wlad hon (Arfon) ydynt y mân ffermwyr. Mae lluaws o'r rhai hyn nas gwyddant hyd yn nod y wyddor. Yr unig lyfrau a geir yn eu tai ydyw y Bibl ac, fe allai, sypyn o almanaciau." "Maent yn nodedig o ddiddysg," meddai un arall am ffermwyr Sir Ddinbych; "mae rhai â fferm hyd yn nod o 180 o erwau nas gallant ddarllen gair o unrhyw iaith." Mewn ysgol ddyddiol yn yr un Sir, "Yr oedd y dosbarth uchaf o'r monitors yn ansicr pa un ai Mair Magdalen ai Mair y Forwyn oedd mam Iesu Grist. Mewn atebiad i fy ngofyniadau, dywedent fod Moses ac Abraham yn dri o'r apostolion, ac mai Herod a Philat oedd y ddau adyn a fradychasant eu Harglwydd a'u Hathraw." Mewn ysgol gerllaw Nerquis, yn Sir Fflint, "Ni chefais un a allai ddarllen adnod o'r Bibl yn gywir; dim un a allai ysgrifenu yn dda; dim un a allai weithio sum yn mhedair rheol cyntaf Rhifyddiaeth. Gofynais, 'Pwy oedd mam Iesu Grist?' Atebodd bachgen 14 mlwydd oed, 'Brenines Lloegr.' Atebodd eraill, 'Adda,' ac eraill, 'Efa.' Nis gallái dim un ddyweyd wrthyf enw brenines Lloegr." Dyma eto engraifft o ysgol yn Sir Faesyfed: "Pwy a ysgrifenodd y Bibl? Moses. Pwy oedd ef? Ni wyddai neb; clywsai un son am dano. Pwy oedd Crist? Atebodd pump fwy nag unwaith nas gwyddent, ac na chlywsent erioed son am dano. Clywsai un yn unig iddo gael ei groeshoelio; ond nis gallai dim un ddyweyd pa fodd i fod yn gadwedig. Dau yn unig a wyddai pwy a wnaeth y byd. Un yn unig a wyddai nifer y dyddiau mewn mis ac mewn blwyddyn." Mewn ysgol arall yn Sir Aberteifi, "Atebid mai mab Joseph oedd