Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crist; un plentyn yn unig a ddywedodd, Mab Duw. Tybiai un arall ei fod yn awr ar y ddaear. Nis gallai tri o ddosbarth o bump ddyweyd i ba beth y daeth Crist i'r byd, a dau o honynt ddim un peth a wnaeth yn y byd." I ddiweddu ar y penawd hwn, mewn ysgol yn y Brynmawr, "Dywedodd tair geneth na chlywsent erioed son am Iesu Grist, a dwy na chlywsent erioed son am Dduw!"

3. Meddwdod. Rhoddodd Adroddiad Mr. Johnson enwogrwydd annymunol i dref Caernarfon yn y cysylltiad hwn: "Yn Nghaernarfon, os ewch tu allan i'r gwahanol gylchoedd crefyddol, prin y cewch un dyn ieuanc nad yw yn ymroddi i ysmocio ac yfed, a phethau gwaeth. Mae eu harferion yn y dref hon yn fwystfilaidd." Am ranau o Sir Fflint dywedid, "Prif lygredigaeth y parthau hyn ydyw meddwdod, yr hwn sydd yn cael ei wneyd yn fwy cyffredinol a dinystriol trwy yr hen arferiad Cymreig o gadw nosweithiau llawen. Mewn rhai o'r gweithfeydd glo telir i'r dynion ar ddydd Sadwrn, ac ni ddychwelant at eu gwaith hyd y dydd Mawrth neu y dydd Mercher dilynol.. Yn ystod yr amser hwn y maent yn yfed yn ddiorphwys." Mewn rhanau o Sir Faesyfed, "yfant y cwbl a enillant yn y tafarndai. Mae Meddwdod yn ymledaenu mwy yn mysg y benywaid yn awr na gynt. Merched ieuainc ydynt o 20 i 25 mlwydd oed, ac heb briodi." Yn y darlun du o ardal y Brynmawr, dywedid fod "moesau poblogaeth y Brynmawr a'r cyffiniau yn alaethus o isel. Mae meddwdod, cabledd, anwareidd—dra, auniweirdeb, ac aflywodraeth yn ffynu yn gyffredinol yno. Mae yno 5000 o drigolion, ac, o leiaf, 50 o dai newyddion yn cael eu hychwanegu yn flynyddol. Mae yno eisoes 57 o dafarndai o bob math. Mae y golygfeydd y gorfodir yr ustusiaid i edrych arnynt yn herio pob dysgrifiad, ac yn peri i bob teimlad o weddeidddra gywilyddio. Mae y meddwdod fydd yn dechreu nos Sadwrn yn parhau trwy y Sabboth i halogi y dydd sanctaidd hwnw, ac ni roddant i fyny hyd y nos Lun neu yn fynych y nos Fawrth ddilynol.... Dywedid wrthyf fod mewn un rhan o gylch fy ymchwiliad i dros 80 o dai annedd lle y gwerthir spirits heb drwydded. Mae y tafarndai yn heigio yno."

4. Anniweirdeb. O'n holl warthnodau cenedlaethol yr un yr amlygai y tri Dirprwywr fwyaf o ddyddordeb i'w arddangos i'r holl deyrnas yn y lliwiau cryfaf oedd hwn—anniweirdeb merched Cymru. Os cyfodai rhyw un o ddarllen tri Adroddiad y Dirprwywyr heb gredu mai merched Cymru oedd y rhai mwyaf anniwair, yn gystal a'i meibion y rhai mwyaf meddw, ar wyneb yr holl ddaear, nid o ddiffyg pob ymdrech yn y trí boneddwr hyn i'w henill i gredu felly y parhai neb i gredu yn amgen.

"Mae un llygredigaeth yn ffynu trwy holl Ogledd Cymru," ebai Mr. Johnson, ac yn parhau heb ei atal gan unrhyw foddion gwareiddiad. Mae wedi parhau mor faith fel llygredigaeth arbenig y Dywysogaeth, fel y mae ei fodolaeth wedi darfod a chael ei gyfrif yn ddrwg; a dywedir fod arferiad Cymru yn cyfiawnhau yr arferion barbaraidd sydd yn rhagflaenu priodas. Dengys ystadegau plant anghyfreithlawn yn Ngogledd Cymru fod eu nifer yn 1842 yn 12.3 y cant