Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn uwch na chyfartaledd holl Loegr a Chymru ar y nifer cyfatebol o enedigaethau rhestredig. . . . . Os ydyw hyn felly, y mae yn ddigon i gyfrif am bob anfoesau eraill, gan y derbynia pob cenedlaeth ei nodwedd moesol i fesur mawr oddiwrth y mamau a'i magodd. Lle y mae y dylanwadau hyn yn cael eu llygru yn eu tarddiad cyntaf allan, ofer ydyw dysgwyl rhinwedd yn yr hiliogaeth. Tardda y diffyg hwn o ddiweirdeb yn gyffredin o'r arferiad o gydorwedd yn y nos, yr hwn sydd yn dra chyffredinol. Dywedir hefyd ei fod yn cael ei ychwanegu yn fawr gan y cyfarfodydd gweddi hwyrol, a'r gyfeillach ddilynol wrth ddychwelyd adref. Tardda hefyd o'r arferiad cywilyddus o bentyru personau priod a sengl o'r ddau ryw, a'r rhai hyny yn fynych heb unrhyw berthynas rhyngddynt a'u gilydd, i gysgu yn yr un ystafelloedd, ac mewn gwelyau yn ymyl eu gilydd, heb na pharwydydd na llen rhyngddynt. Mae gwylder cynhwynol yn cael ei lwyr ddinystrio gan yr arferiad gwarthus hwn, a gweddeidd-dra greddfol gwrrywiaid a benywaid yn cael ei lethu yn ei flagur cyntaf. Ceir yr arferiad hwn yn mysg y dosbarthiadau nesaf uwchlaw yn gystal ag yn mysg y dosbarth gweithiol." "Mae nifer y plant anghyfreithlawn," ebai tyst arall, wrth eu cymharu â Lloegr, yn arswydlawn." Am ranau o Fflint dywedid fod "yn anhawdd cael un bwthyn ynddo na chollasai rhyw ferch ynddo ei diweirdeb cyn priodi." Am Arfon hefyd, fod "anniweirdeb yma yn hynod. Nid yw yn gyfyngedig i'r tlodion. Yn Lloegr y mae merched amaethwyr yn barchus; yn Nghymru y maent yn wastad yn dilyn yr arferiad isel o gydorwedd. Yn mysg y morwynion y mae yr arferiad yn gyffredinol. Dywedir wrthyf gan fy mhlwyfolion, os na chaniatâf yr arferiad, y byddaf yn fuan heb un forwyn o gwbl, ac y bydd yn anmhosibl i mi gael yr un.' Wele eto y cymeriad du a roddai Canon Trevor i Fam Cymru ei hun: "Credwyf fod cyfartaledd y bastardiaid yn Môn (gydag un eithriad, a hono yn Nghymru) yn uwch nag yn un Sir arall yn y Deyrnas Gyfunol. Mae y ffaith hon yn ddigon i brofi iselder moesoldeb ein gwerin gyffredin. Yr wyf yn tystio yn ddibetrus, fel ffaith anwadadwy, nad ydyw anniweirdeb yn cael ei ystyried yn bechod, na phrin yn fai, gan y bobl gyffredin yn Nghymru. [Yma dilyna engreifftiau er profi hyn, hollol anghymhwys i ni eu rhoddi yma.] Mewn gair, yn yr achos hwn, hyd yn nod tu hwnt i un arall a nodais, y mae meddyliau ein pobl gyffredin wedi eu llwyr lygru a'u bwystfileiddio yn gyffredinol."

5. Iaith Cymru. Yn ol Mr. Symons, "mae yr iaith Gymraeg yn cadw Cymru yn ol yn ddirfawr, ac yn gosod lluaws o atalfeydd ar ffordd cynydd moesol a llwyddiant masnachol y genedl. Anhawdd ydyw gorbrisio ei heffeithiau niweidiol. Ceidw y bobl oddiwrth gyd—drafodaeth a'u dyrchafai yn fawr mewn gwareiddiad, ac atalia wybodaeth fuddiol i mewn i'r meddyliau. Fel prawf o hyn nid oes ganddynt lenyddiaeth Gymraeg deilwng o'r enw.

Gwelir effeithiau niweidiol yr iaith Gymraeg yn eglur ac alaethus yn y brawdlysoedd. Mae yn gwyrdroi y gwirionedd, yn ffafrio twyll, yn cefnogi anudoniaeth, a arferir yn fynych yn y llysoedd, ac sydd yn