Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

osgoi darganfyddiad trwy dyllau cyfieithiad. Effeithia yr arddangosiad cyhoeddus hwn o dwyll llwyddianus yn andwyol ar foesoldeb y bobl a'u parch i eirwiredd. Mae y watwareg o brawf Saesonaeg o droseddwyr Cymreig gan reithwyr Cymreig yn cael eu cyfarch gan gyfreithwyr a barnwyr yn Saesonaeg yn rhy hynod a gwarthus i alw am eglurhad." "Mae y Saesonaeg yn enill tir," medd un clerigwr, "ac hyd nes y siaredir hi yn gyffredinol nis gellir gwneyd dim yn effeithiol tuag at ddyrchafu cyflwr cymdeithasol y genedl. Dysger Saesonaeg, ac yna ymlidir dallbleidiaeth (bigotry—Ymneillduaeth?) o'n mysg." Eto, yn ol clerigwr arall, "Pan y gwrthweithia yr iaith Saesonaeg y Gymraeg ymaith, nid oes amheuaeth nad alltudir ar yr un pryd y lluaws rhagfarnau a goledda y genedl oddiwrth eu hiaith frodorol, ac y coethir eu chwaeth a'u harferion." Yn ol curad Llanelly, Brycheiniog, "nis gall dros un rhan o dair o'r bobl mewn oed ddarllen, a llai na hyny ysgrifenu; ac, oherwydd yr ymdrafodaeth bychan sydd rhyngddynt â dyeithriaid, a ffyniant yr iaith Gymraeg, ni wyddant bron ddim am arferion cyffredin bywyd gwareiddiedig." Cred Eglwyswr o Lanbedr oedd "fod tyngu anudon yn gyffredin yn y brawdlysoedd, ac fod yr iaith Gymraeg yn rhwyddhau hyny; oblegyd, gwelir tystion yn deall Saesonaeg yn cymeryd arnynt nad ydynt, er mwyn enill amser tra y byddo y gofyniadau yn cael eu cyfieithu iddynt i ffurfio ac ystumio eu hatebion at eu hamcan eu hunain. Nid oes un feddyginiaeth i'r drygau hyn ond lledaeniad yr iaith Saesonaeg." Mynai cyfreithiwr o Sir Aberteifi "fod yr iaith Gymraeg yn nodedig o fwys (evasive), ac fod hyny yn tarddu o'i bod yn iaith gwaseidd-dra (slavery)."

6. Ymneillduaeth Cymru. "Dywedir," meddai Mr. Symons, "fod y diffyg o ddiweirdeb yn cael ei ychwanegu yn fawr gan y cyfarfodydd gweddi hwyrol, a'r cydgyfeillachu sydd yn canlyn wrth ddychwelyd adref." Meddai Eglwyswr arall, "Ymgynullant yn gyffredin i'r addoliad cyhoeddus; ond dychwela y bobl ieuainc o'r gwasanaeth mewn agweddau afreolus iawn, a chymer llawer o anfoesoldeb le mewn canlyniad." Yn ol offeiriad Bleddfa, "y prif achosion, dybygid, o'r dibrisdod hwn o wylder a diweirdeb, ydynt, yn 1af, Y diffyg lle yn y ffermdai a'r bythod bychain. Cysga meibion a merched wedi tyfu i fyny, a gweision a morwynion, yn gyffredin yn yr un ystafell. Yn 2il, Arferiad andwyol yr Ymneillduwyr o gynal cyfarfodydd hwyrol yn eu capelau ac mewn ffermdai, lle yr ymgynulla ieuenctyd o'r ddau ryw er mwyn dychwelyd adref gyda'u gilydd. Fel ustus heddwch, gallaf yn ddibetrus ddyweyd, wedi ymholi i luaws o achosion o fastardiaeth, i mi gael allan fod y mwyafrif o honynt i'w priodoli i'r cyfleusderau hyn i gydymgynull." "Cyfarfydda y bobl ieuainc," meddai un arall, "yn fynych yn yr ysgolion nos yn y tai, i barotoi y pwnc, ac arweinia hyn i anfoesoldeb rhwng yr ieuenctyd o'r ddau ryw, y rhai a dreuliant y nos ddilynol gyda'u gilydd mewn taflodau gwair." Eto, haeriad cwbl naturiol offeiriad o Eglwys Loegr ydyw, fod "profiad maith wedi fy argyhoeddi i o gymeriad mwy heddychlawn a theyrngarol y rhai hyny o'r dosbarth isaf sydd yn aelodau o Eglwys Loegr na'r rhai o'r sectau eraill."