Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyhoeddid gwarthnodau duon eraill yn ein cymeriad cenedlaethol, mor gyffredinol, os nad mor farbaraidd a'r rhai a nodwyd. "Mae y Cymry yn fwy twyllodrus na'r Saeson," yn ol offeiriad Llanfairmuallt; "6 er bod yn llawn o eiriau teg, nis gallaf ymddiried ynddynt fel y gallwn yn y Saeson. Mae mwy o duedd i chwiwladrata yma nag yn mysg y Saeson." Sicrha Mr. Symons "fod dibrisdod o eirwiredd yn ymddad blygu yn arswydlawn yn Nghymru yn mynychder tyngu anudon yn y brawdlysoedd. Sicr ydwyf gyda golwg ar ddyweyd celwydd nid oes ynddynt ddim ymdeimlad ei fod yn bechadurus, mor gynefin ydynt â dibrisio y gwir pan y byddo mantais yn galw am ddyweyd celwydd." Tystiai ustus heddwch " na wneir ond cyfrif bychan o eirwiredd a chysegredigrwydd llw. Anhawdd nodedig ydyw cael tystiolaethau boddhaol yn y brawdlysoedd." Gwarthnod cenedlaethol arall arnom, yn ol Mr. Symons, ydoedd "fod ofergoeledd yn gyffredinol. Mae y gred mewn swynion (charms), ysbrydion, ac hyd yn nod mewn dewiniaeth, wedi goroesi yn dalgryf yr holl wareiddiad a goleuni sydd er's amser wedi ymlid y gweddillion hyn o'r oesoedd tywyll o wledydd eraill. Nid oes ond ychydig, neu ddim, o'r fath oleuni eto wedi treiddio i'r tywyllwch dudew, yr hwn, trwy gael ei lochesu gan eu hiaith, ac heb ei aflonyddu gan unrhyw ymdrechion i'w goleuo, sydd eto yn amdoi meddyliau y bobl. Y gred gyffredinol mewn ysbrydion a'r ofergoeledd bron anghredadwy sydd trwy fy holl gylch i ydyw, fe allai, y cryfaf o bob profion o'r dyfnder o anwybodaeth y mae yn gorwedd ynddo."

Addefai y tri Dirprwywyr a lluaws o'u tystion fod yr Ymneillduwyr, trwy eu hysgolion Sabbothol, yn llawer mwy ymdrechgar a llwyddianus na'r Eglwyswyr mewn cyflenwi y wlad â gwybodaeth grefyddol. Ond gan eu bod yn cyfyngu eu llafur gydag addysg mor llwyr i'r Ysgol Sabbothol, yr iaith Gymraeg, a gwybodaeth grefyddol, ac mor esgeulus o iaith ac addysg Saesonaeg gyffredinol yr ysgol ddyddiol, yr oedd eu holl lafur, fel y profai y tystiolaethau, i fesur mawr yn ofer i wareiddio a moesoli y wlad. Amcan eglur y tystiol aethau yn "Llyfrau Gleision" y Dirprwywyr oedd profi mai y prif allu i ddyrchafu cenedl y Cymry o'r dyfnder o dywyllwch ac anwareidddra ag y dangosid ei bod yn gorwedd ynddo oedd yr iaith Saesonaeg ac addysg fydol Saesonaeg yr ysgol ddyddiol, ac mai yr unig beiriant oedd yn alluog i ddwyn y gallu hwnw i weithredu yn effeithiol arnom fel cenedl oedd peiriant oll—alluog y Llywodraeth Wladol.

Rhydd y dyfyniadau uchod ryw feddylddrych i'r genedlaeth bresenol o'n darllenwyr am ddüwch aruthrol y darlun a gynwysai y "Llyfrau Gleision" hyny o'n cenedl.